Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

The Rat Pack at Christmas - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn

Stephen Triffitt fel Frank Sinatra
Mark Adams fel Dean Martin
George Daniel Long fel Sammy Davis Jr

The Golddiggers a The Manhattan Swing Orchestra

Yn syth o’r West End, daw cast gwreiddiol Llundain yn ei ôl i Neuadd Dewi Sant ar ei unfed flwyddyn ar hugain ar daith!

Yn ei ôl o fawr alw amdano ac ar ôl perfformiadau werthodd bob tocyn drwy’r byd yn grwn, dyma’r  Definitive Rat Pack yn dod â noson o glasuron Dolig i chi, yn cynnwys White Christmas, Baby It’s Cold Outside, The Christmas Song a Let It Snow, ac at hynny ffefrynnau’r oesoedd yn cynnwys  Mack the Knife, That’s Amore, Mr Bojangles a New York, New York. Pa ffordd well o ddeffro ysbryd y Dolig!

Bydd yma Golddiggers bondibethma Dean Martin a’r Manhattan Swing Orchestra fyd-enwog a dyma un parti Dolig rhy dda i’w golli raid chi’m peryg…

 
  • Pris safonol: £32.50

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Logo Hynt