ELO Again - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Y Deyrnged Orau Fyw Fyd Bosib i Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra
Dydd Gwener 26 Ionawr 2024, 7.30pm
Dyma ELO AGAIN yn eu holau ar eu Taith 'Re-Discovery’ ddigon o ryfeddod yn dathlu cerddoriaeth wirioneddol holl-gyffredinol Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra.
Does dim dwywaith nad ydi ELO AGAIN yn rhoi blas dramatig i chi o be fuasai un o gyngherddau chwedlonol ELO pan oedden nhw yn eu blodau, gydag ail-greu’r profiad yn ei grynswth yn broffesiynol – a’r atgynhyrchu sain, y sioe oleuadau a’r effeithiau gweledol yn wych.
Maen nhw’n perfformio’r hits mawr i gyd – MR BLUE SKY, LIVIN’ THING, SWEET TALKIN’ WOMAN, SHINE A LITTLE LOVE, CONFUSION, LAST TRAIN TO LONDON, ROLL OVER BEETHOVEN, WILD WEST HERO, DON'T BRING ME DOWN, THE DIARY OF HORACE WIMP, TELEPHONE LINE, TURN TO STONE a llond gwlad at hynny.
A hithau’n bennaf sioe deyrnged gwledydd Prydain, mae ELO AGAIN yn rhoi i chi effaith fyw drawiadol trefniannau enwog ELO, eu tannau esgynnol a‘u lleisiau. Maen nhw’n gwybod sut mae difyrru hefyd, raid chi’m peryg, yn hits ribidirês. Mae eu gwedd ar MR BLUE SKY yn ddigon i fynd â’ch gwynt chi, yn heigio gan angerdd a sêl; bydd y gynulleidfa ar eu traed bob copa walltog.
Dewch i ail-fyw oes Glam Roc ac ELO AGAIN yn talu teyrnged i ganeuon celfydd, hardd Jeff Lynne. Byddwch yn morio yn arddull roc symffonig ddi-ail ELO a glywch chi rai o ganeuon roc a pop clasurol bythgofiadwy ein cenhedlaeth.
Dyma’r MR BLUE SKY bythol yn ei ôl, felly Roll Over Beethoven – Roc a Rôl Sydd Frenin.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.