BBC Radio 2 Sounds of the 80s: Y Daith Fyw - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Dydd Gwener 1 Tachwedd 2024, 7.30pm
Dyma’r DJ chwedlonol Gary Davies yn dod â sioe radio fwyaf poblogaidd yr wyth degau yng ngwledydd Prydain ar daith – y sioe glywch chi ar nos Sadwrn ….yn fyw ar lwyfan!
Bydd yntau a’i gynhyrchydd Johnny Kalifornia yn eich cipio’n ôl i’r degawd gorau ym myd cerdd – yr wyth degau!
Dewch i jolihoetio i Mastermixes wedi’u curadu’n arbennig a gwylio’n dawnswyr Sounds of the 80s disglair yn ail-greu golygfeydd clasurol o ffilmiau a fideos yr wyth degau.
Gewch chi ddawnsio i gyfeiliant eich hoff anthemau’r wyth degau gan artistiaid fel Wham!, Queen, Prince, Madonna, Whitney a rhagor.
A hwyrach wir y bydd yna ambell i eicon annisgwyl o’r wyth degau … Felly gwisgwch yn grand o’ch co a thyrchu’r crysau Ti Frankie a Wham o waelod y wardrob, rhoi’r ffunennau am eich pen a’r legins gweu am eich coesau a dod aton ni i ail-fyw oes fwyaf cerddoriaeth mewn horwth o barti.
Cynhyrchiad masnachol ydi Sounds of the 80s a drwyddedir gan y BBC.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.