10cc - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Dydd Mercher 27 Mawrth 2024, 7.30pm
Hanner can mlynedd ar ôl eu halbwm début, mae’r chwedlau pop celf a roc meddal 10cc wedi cyhoeddi taith fawr yng ngwledydd Prydain yn ngwanwyn 2024. Daw’r cyhoeddiad tra mae’r band ar daith fawr ar hyn o bryd yn Awstralia a Seland Newydd.
Mae’n dal i fod yn un o’n hoff fandiau ac yn ffefryn gan y beirniaid – “Note perfect!” meddai’r Daily Telegraph; ac meddai’r Arts Desk: “10cc's songbook, full of fun and love and rage, remains blessedly the same”.
Wedi gwerthu dros bymtheng miliwn albwm yng ngwledydd Prydain yn unig, mae gan 10cc un ar ddeg o hits yn y Deg Uchaf er eu clod, gan gynnwys tair sengl Rhif Un - Rubber Bullets, Dreadlock Holiday a’r gân-bob-man I’m Not In Love – ynghyd â Donna (Rhif Dau), Art For Art’s Sake a Good Morning Judge (gyrhaeddodd Rif Pump ill dwy), The Things We Do For Love ac I’m Mandy Fly Me (Chwech), a The Wall Street Shuffle (Deg).
A Graham Gouldman ar y blaen, mae’r band byw’n cynnwys Rick Fenn (gitâr blaen, bas, llais), Paul Burgess (drymiau, offerynnau taro) – ill dau gyda 10cc ers y blynyddoedd cynnar – Keith Hayman (allweddellau, gitarau, bas, llais) ac Iain Hornal (llais, offerynnau taro, gitâr, allweddellau).
Cyn y daith yng ngwledydd Prydain yn y gwanwyn bydd y band yn ei chychwyn hi am Ewrop yn yr hydref eleni, ar daith dau oed ar bymtheg yn cynnwys sioeau yn yr Iseldiroedd, gwlad Belg a’r Almaen a mynd yn ei ôl i Lychlyn lle’n gynharach eleni roedd Björn Ulvaerus o ABBA yn Stockholm i weld y sioe yno.
Ar hyn o bryd mae’r aelod sylfaenu 10cc Graham Gouldman a Björn yn gweithio ar ŵyl ar thema cyfansoddi caneuon fydd ar fynd yn Sweden ym mis Gorffennaf, lle bydd Roxette, y deuawd pop-roc o Sweden, hefyd yn gefn.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.