Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Hello Again - A Tribute to Neil Diamond - AILDREFNU
Dydd Iau 2 Medi 2021, 7.30pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 02.09.2021**
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Hello Aaain - A Tribute to Neil Diamond nos Gwener 22 Ionawr 2021 wedi’i ohirio tan nos Iau 2 Medi 2021, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Hello Again - A Tribute to Neil Diamond - AILDREFNU
Dathliad Mwyaa’r Byd o Fywyd a Gwaith NEIL DIAMOND…Yn serennu Brooklyn Creed & The Salvation Band…Yn defnyddio delweddau atgofus, fideo ac adroddiad i wneud yr hud yn fwy fyth, mae’r sioe’n mynd â chi ar daith gerddorol drwy yrfa ddisglair hanner can mlynedd Neil Diamond.
A chanddi gast a chredydau gynt i ymfalchïo ynddynt, yn cynnwys Michael Jackson, Kylie Minogue, Take That, Spice Girls, Bay City Rollers, Freddie Starr, Culture Club, The Drifters a llond gwlad at hynny, does ryfedd bod y sioe yma bellach yr un mae gwlad y theatr yn sôn amdani.
O The Bang Years hyd at heddiw buan y cewch chi’ch hun yn cyd-ganu â’r holl hits gan gynnwys Sweet Caroline, Cracklin’ Rosie, Forever in Blue Jeans, Song Sung Blue, Hello Again, Love on the Rocks, Americaa llond gwlad at hynny.
***** “Close your eyes and you could be in the presence of one Neil Leslie Diamond…A spellbinding recreation of a Neil Diamond concert.”Nottingham Post
***** “Absolutely Mesmerising” Steve le Fevre - Sky TV
*****"Brooklyn Creed sounds JUST like Neil Diamond…worthy of a West End production…I would recommend to see this show more than once !!!! FAB, FAB, FAB !!!!!”Facebook Quote
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £2 oddi ar y tocynnau drutaf
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934):Seddi'r stalau @ £25 pob tocyn
Ynghyd â ffi postio opsiynol o £1.50. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.