Echo & the Bunnymen
Deugain Mlynedd o Ganeuon Hudol
Dydd Sul 23 Mai 2021, 7.00pm
Bwciwch NawrYn un o’r bandiau Prydeinig mwyaf dylanwadol yn hanes yr oes sydd ohoni, heddiw cyhoeddodd Echo & The Bunnymen daith un oed ar bymtheg yng ngwledydd Prydain ym mis Mai 2021. Bydd y daith, sy’n cychwyn yn Neuadd Dref Sheffield nos Wener 7 Mai, yn dathlu’r caneuon roes i’r grŵp ugain o hits yn yr Ugain Uchaf a naw o albymau yn yr Ugain Uchaf hyd yma yn ystod eu gyrfa ddeugain mlynedd anhygoel.
Bu albymau arloesol y band - Crocodiles, Heaven Up Here, Porcupine ac Ocean Rain yn ddylanwad o bwys ar actau megis Coldplay, The Killers a’r Flaming Lips, ac mae’r albymau diweddaraf Evergreen a What Are You Going To Do With Your Life? a Siberia & Meteorites yn dangos y fath gorff aruthrol o waith sydd gan y band. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf The Stars & The Oceans & The Moon yn hydref 2018 - “Magical” chwedl Q Magazine.
Mae’r Bunnymen yn dal i fod yn fawr eu parch yn niwylliant y bobl, a’r gyfres fawr ei chlod a diwylliannol ryfeddol gan Netflix, Stranger Things, yn defnyddio’u cân Nocturnal Me a’r gyfres yr un mor boblogaidd 13 Reasons Why yn defnyddio The Killing Moon, cân a ddefnyddiwyd hefyd ar sioe arall gan Netflix, Dead of Summer.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.