Bjӧrn Again

  • Rhaid i blant dan 14 oed fod gydag oedolyn
 

DRYSAU'N AGOR 7PM

Yn dilyn taith eu deng mlwyddiant ar hugain y llynedd, a werthodd bob tocyn, a chyn eu début yn Ynys Wydrin, cyhoeddodd BJÖRN AGAIN daith ledled Prydain ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2019 yn perfformio hits mwyaf Abba. 

Ym Melbourne ym 1988 y creodd a sylfaenodd Rod Stephen y sioe sy’n fawr ei chlod drwy’r gwledydd. Yn barodi ABBA ddychanol, ysgafnfryd, dros ysgwydd y cynlluniwyd y sioe ond buan y magodd safle Cwlt drwy’r byd yn grwn a chydnabyddid iddi gychwyn yr adfywiad ABBA ar ei liwt ei hun, a epiliodd ABBA Gold, Muriel’s Wedding a MAMMA MIA! 

Mae llwyddiant parhaol y sioe BJÖRN AGAIN yn ddrych o apêl fythol ABBA - pum mil o berfformiadau mewn deuddeg gwlad a thrigain dros un mlynedd ar ddeg ar hugain. Mae BJÖRN AGAIN yn cael y clod o fod y sioe fwyaf poblogaidd a llwyddiannus o’i bath, a gwelodd ei hoes uchelfannau lawer dros y blynyddoedd. O berfformio ym Mhalas Buckingham i’w Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth a Dug Caeredin hyd at deithio gyda Cher, Shania Twain a chwarae yn Wembley Arena, Royal Albert Hall, London Palladium a Hyde Park mawr eu bri yn Llundain.

Fe’i cydnabyddir gan ganwr pryd golau ABBA, Agnetha Fältskog, a’r amcan yn y pen draw bob amser i Rod ydi cadw’i frand ar y brig a dal i fynd gyhyd ag y bo pobl am glywed perfformio repertoire hoff ABBA yn null dihafal y sioe BJÖRN AGAIN.

Yn sôn am y daith, meddai Rod Stephen: We are really looking forward to touring again this year. Come and join us for loads of great songs combined with tons of fun and antics.”

 
 Pris Safonol £28 | £38 

 PECYN PARTI VIP VOULEZ VOUS

 - Gewch chi flaenoriaeth yn mynd i mewn ac at far arian parod cyn i’r oedfan agor
 - Rhoi cychwyn ar y parti â’ch pecyn parti VIP eich hun, sy’n cynnwys dewis o roddion difyr a ysbrydolwyd gan Bjorn Again
 - Cael blas ar brofiad llawn Bjorn Again o un o’r seddi gorau yn y tŷ

£68

PECYN PARTI VIP GRŴP VOULEZ VOUS
Grwpiau 10+ yn cael disgownt 15% ar bris y pecyn

 - Gewch chi flaenoriaeth yn mynd i mewn ac at far arian parod cyn i’r oedfan agor
 - Rhoi cychwyn ar y parti â’ch pecyn parti VIP eich hun, sy’n cynnwys dewis o roddion difyr a ysbrydolwyd gan Bjorn Again
 - Cael blas ar brofiad llawn Bjorn Again o un o’r seddi gorau yn y

£57.80
 Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith - Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444  seddi'r stalau @ £28 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 

"Welcome to Buckingham Palace I hope you have a great show. If you are onstage at 11pm It’s a bit late for me – I’ll be tucked up in bed by then! ” - HRH Queen Elizabeth II (Buckingham Palace Christmas Party 2012)

"It was a great show. I loved the choreography ... it was very true to life.....When do you play your next shows?...Good Luck for the tour" - Agnetha Fältskog (TV3 / TV6 20th Anniversary party Stockholm 2007)

"BJÖRN AGAIN has been going for twice as long as ABBA did!" - Benny Andersson (The Observer OMM, Mamma Mia Film Interview London 2008)
   
"BJÖRN AGAIN....the first time i heard that i thought it was a very funny name!" Björn Ulvaeus (Manchester Evening News 2008)

"Thanks for the great show" - Kylie Minogue (New Year’s Eve Wembley Arena 2006)

"A wonderful evening in this magnificent setting dancing to Björn Again" - J.K. Rowling - Harry Potter Author (2006 MS Charity Ball)