Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Billy Ocean nos Iau 24 Medi 2020 wedi’i ohirio tan nos Mercher 20 Hydref 2021, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
‘Mae’n ddrwg gen i ein bod wedi gorfod gohirio’r daith, ond gwyddom i gyd am yr amgylchiadau, a pheryg pobl yn ymgynnull. Edrychaf ymlaen at gael parti tan gamp gyda chi i gyd yn 2021.
Un Byd, Un Cariad, Billy' _____________________________________
Yn dilyn ei daith a werthodd bob tocyn yn gynharach eleni, mae eicon Canu’r Enaid Prydain, Billy Ocean, wedi cyhoeddi taith enfawr ar ben y rhaglen yng ngwledydd Prydain yn hydref 2020. Bydd Billy’n perfformio’r goreuon o blith ei hits mwyaf a chaneuon o’i albwm stiwdio newydd, ‘One World’, a ryddheir cyn bo hir yng ngwanwyn 2020.
Billy Ocean ydi’r seren recordio groenddu fwyaf llwyddiannus a gynhyrchodd Prydain erioed, wedi gwerthu dros ddeng miliwn ar hugain o recordiau yn ei oes hyd yn hyn. Daeth llwyddiant rhyfeddol i ran Billy, yn artist ac yn gyfansoddwr caneuon, a chasglodd recordiau Aur a Phlatinwm rhif y gwlith drwy’r byd yn grwn a chyrraedd hicyn rhif un ledled y byd yn y siartiau pop gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia, yr Almaen, yr Iseldiroedd a gwledydd Prydain.
Gwelodd 2016 ryddhau’r albwm ‘Here You Are: The Best Of Billy Ocean’ yng ngwledydd Prydain, a aeth i safle Rhif Pedwar yn siartiau’r Deg Uchaf, yr albwm gan Billy oedd uchaf yn y siartiau ers 1989. Eleni dathlodd Billy bymtheng mlwyddiant ar hugain ei albwm 'Suddenly' oedd yn torri tir newydd. Yn 1984 y rhyddhawyd y record yn wreiddiol ac ohoni deilliodd yr hits ysgubol 'Caribbean Queen (No More Love On The Run)', 'Mystery Lady' a 'Loverboy'. A does dim dau na fydd 2020 yn flwyddyn fawr eto i Billy, yn rhoi tân dani i ryddhau ei albwm newydd y mae mawr edrych ymlaen ato.
Mae’r pecyn yma’n cynnwys sedd gyda’r gorau yn yr wyth* rhes flaen
Rhodd VIP taith Billy Ocean wedi’i dylunio’n arbennig
Print celf taith Billy Ocean, wedi’i rifo ac i westeion VIP yn unig
Rhestr set benodol y sioe wedi’i llofnodi gan Billy
Cofrodd laminedig VIP swyddogol taith 2020 Billy Ocean
Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith - Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934: Seddi'r stalau @ £28 pob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.