Belinda Carlisle - AILDREFNU
The Decades Yn dathlu pymtheng mlynedd ar hugain ei gyrfa solo
Dydd Sadwrn 23 Hydref 2021, 7.00pm
Nodwch mai yn 2021 y cynhelir y digwyddiad hwn.
Canllaw Oedran:
14+ (rhaid i bawb dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn)
Drysau'n agor 7pm
Mae sêr roc yn mynd ac yn dod ac, ar dirwedd gyfnewidiol tueddiadau cerddorol aflonydd, ychydig o artistiaid sy’n dal prawf amser go iawn. Mae Belinda Carlisle yn un o’r doniau prin hynny sy’n dal ei thir. Ar ôl agos i bedwar degawd ym myd adloniant mae’n dal i fod yn berthnasol, yng nghanol chwaeth newidiol llwyddodd y canwr a’r cyfansoddwr caneuon dawnus a swynol i gyffwrdd â chalonau selogion pop drwy’r byd yn grwn yn fythgofiadwy â’i chydasiad dihafal sef môr o lais, alawon teimladol wefreiddiol a geiriau hyfryd.
Ar daith ‘The Decades’ bydd yr artist recordio mawr ei chlod drwy’r gwledydd yn dathlu ei gwledd o gatalog cerddorol a’i dawn gerddorol amryliw. Mae’r daith yn ymestyn dros un oed ar bymtheg drwy hyd a lled gwledydd Prydain ym mis Hydref 2021, yn cynnwys sioe yn Neuadd Dewi Sant ar 23ain Hydref.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.