Ellen Kent: Carmen - gyda Ukrainian Opera a Ballet Theatre Kyiv - WEDI'I GANSLO
Dydd Sadwrn 17 Chwefror 2024, 7.30pm
Senbla yn cyflwyno cynhyrchiad arobryn Opera International gan Ellen Kent gyda Ukrainian Opera a Ballet Theatre Kyiv ac unawdwyr rhyngwladol, corws mawr ei glod a cherddorfa lawn.
Bizet Carmen
Noson o angerdd, cenfigen rywiol, angau ac ariâu bythgofiadwy.
Mae’r cynhyrchiad disgleirwych yma gyda cherddorfa yn cynnwys alawon bythgofiadwy Bizet, yn eu plith ‘Cân y Toreador’, ‘Habanera’ ddengar Carmen, a ‘Cân y Blodyn’ delynegol Don José mewn amgylchfyd sy’n deffro yn y cof bensaernïaeth syfrdanol Sevilla a’i phrif sgwâr a’i dylanwadau Rhufeinig a Mwraidd.
Canir yn Ffrangeg gydag uwchdeitlau Saesneg.
*Gallai’r cast newid.
Cofiwch fod gan rai seddi efallai olwg gyfyngedig ar yr uwchdeitlau.Cofiwch holi pan fyddwch yn codi tocynnau.Mae’r wybodaeth i gyd yn gywir ar adeg ei rhyddhau.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.