Puccini: Madama Butterfly

Croeso’n ôl i’r soprano wych o Gorea Elena Dee a’r soprano ryngwladol enwog Alyona Kistenyova* 

O alw aruthrol amdani gan y cyhoedd, daw’r Opera arobryn yma yn ei hôl mewn cynhyrchiad newydd, a chanddo setiau celfydd yn cynnwys gardd Japaneaidd ysblennydd a gwisgoedd gwych gan gynnwys cimonos priodas hynafol o Japan. 

Mae Madama Butterfly Puccini yn un o operâu mwyaf poblogaidd y byd, yn adrodd hanes torcalonnus y ferch ifanc hardd o Japanead sy’n syrthio mewn cariad â lefftenant yn llynges America - a’r canlyniadau dramatig.  Ymhlith yr uchelfannau mae’r Corws Hymian melodaidd, yr aria wefreiddiol One Fine Day a’r Deuawd Serch bythgofiadwy.

Canir Madama Butterfly yn Eidaleg gydag uwchdeitlau Saesneg
*Gallai’r Cast Newid.

 
 Pris Safonol £19 | £23 | £27.50 | £31 | £36
 Dan 16 oed | Pobl anabl ynghyd ag un cydymaith | Myfyrwyr | Hawlwyr Hanner Pris
 Dros 60 £2 yn llai
 Cyfeillion Clwb Ellen Kent | Cyfeillion Neuadd Dewi Sant

Gostyngiad o £5 y tocyn oddi ar y 3 phris uchaf

 Grwpiau 10-19 (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £1 oddi wrth bob tocyn
 Grwpiau o 20 neu fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) £2 oddi wrth bob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

%MCEPASTEBIN%

 
Bwciwch Nawr