Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Capital City Jazz Orchestra gyda’r unawdydd gwadd arbennig Julian Siegel - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn

Dewch at y Capital City Jazz Orchestra i noson gampus o gerddoriaeth Big Band. Bydd yma gerddorion Jazz sydd ymhlith goreuon De Cymru yn ei swingio hi ar hyd y nos â chymysgedd o Glasuron Big Band a’r siartiau cyfoes.

JULIAN SIEGEL
Sacsoffonydd · Clarinetydd · Arweinydd Band · Cyfansoddwr · Threfnydd 

Sacsoffonydd ydi JULIAN SIEGEL y mae galw mawr amdano ar sîn Jazz gwledydd Prydain ac Ewrop ac sydd wedi gweithio gyda llawer o’r ffigyrau blaenaf ym myd cerdd.Dyfarnwyd iddo Wobr Jazz 2007 y BBC am yr Offerynnwr Gorau.Ar hyn o bryd mae’n teithio gyda’r Julian Siegel Quartet sef y pianydd Liam Noble, y canwr basgrwth Oli Hayhurst a’r drymiwr Gene Calderazzo.Dyfarnwyd i CD cynta’r Pedwarawd, Urban Theme Park, Wobr Jazz Llundain 2011 ac ym mis Chwefror 2018 rhyddhaodd y Pedwarawd eu halbwm newydd VISTA ar Whirlwind Recordings.Ers rhyddhau VISTA perfformiodd y band drwy’r gwledydd mewn Gwyliau Jazz yn cynnwys Inntöne Jazzfestival yn Awstria, Made in The UK yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Rochester, NY, Jazz Standard NYC, JazzFestival Göttingen, yr Almaen, Gŵyl Jazz Limerick Iwerddon, Gŵyl Love Supreme Gwledydd Prydain, Gwyliau Jazz Rhyngwladol Bryste a Manceinion a thaith fawr yng ngwledydd Prydain yn 2018 a 2019 dan nawdd Arts Council England.  Roedd y Pedwarawd ar glawr Jazzwise Magazine gwledydd Prydain ym mis Chwefror 2018 ac roedd VISTA ymhlith Ugain Albwm Jazz Ucha’r Flwyddyn Jazzwise.

"Spontaneous sparkle, Siegel's wailing, swerving lines burst with character."
John Fordham, The Guardian

“With drive, a warm sound and an endless flow of ideas, Siegel's lines seem some how three dimensional, even at break neck tempos.” Hi-Fi News and Record Review ('Vista' Album Choice - March 2018)

Cardiff City Jazz Orchestra logo

 
  • Pris safonol: £17.00
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60: £2 oddi with bob tocyn
  • Myfyrwyr | Plant dan 18 oed: £10.00
  • Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444): £2 oddi with bob tocyn
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
 

O 1996 allan roedd Julian yn gyd-arweinydd y band dylanwadol Partisans gyda’r gitarydd arobryn Phil Robson sydd â’i gartref yn Ninas Efrog Newydd, yn cynnwys Thaddeus Kelly ar y Basgrwth a Calderazzo ar y Drymiau.Mae’r band wedi chwarae mewn Gwyliau Jazz mawr yn Ewrop, yr Unol Daleithiau a Chanada.Ym mis Mai 2019 rhyddhaodd y band eu chweched albwm (a’u halbwm byw cyntaf) Nit de Nit ar Whirlwind Recordings.Dyfarnwyd pumed albwm y band Swamp (Whirlwind) yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Parliamentary Jazz 2015.

Ffurfiwyd y Julian Siegel Trio gyda sêr Byrfyfyrio’r Unol Daleithiau, y drymiwr Joey Baron a’r canwr basgrwth Greg Cohen, o ganlyniad i gomisiwn mawr gan Ŵyl Jazz Cheltenham yn 2006.

Bu’r Triawd ar daith deirgwaith yng ngwledydd Prydain a rhyddhau albwm dwbl Live at the Vortex (Basho Records).

Mewn blynyddoedd diweddar dechreuodd Julian gyfansoddi cerddoriaeth i Gerddorfa Jazz ac ym mis Mawrth 2017 aeth Julian â’r Julian Siegel Jazz Orchestra newydd ei ffurfio ar daith chwe oed yng ngwledydd Prydain dan nawdd Arts Council England, cynhyrchwyd y daith gan Derby Jazz a Right Tempo gyda chefnogaeth EMJazz.Chwaraeodd J.S.J.O. gyfansoddiadau a threfniannau Julian gan gynnwys y gyfres newydd a gomisiynwyd yn arbennig i’r daith gan Derby Jazz, Tales from the Jacquard.Ym mis Mehefin 2021 rhyddhawyd albwm début y band Tales from the Jacquard ar Whirlwind Recordings.Recordiwyd yr albwm yn fyw ar daith gan Jazz Now BBC Radio 3 a’i ailgymysgu a’i feistroli i’w ryddhau ar CD gan Chris Lewis a’i feistroli yn Ninas Efrog Newydd gan Tyler McDiarmid i’w ryddhau ar Finyl Dwbl argraffiad cyfyngedig.

Ym mis Chwefror 2018 gwahoddwyd Julian i’r Almaen i chwarae dau gyngerdd gyda’r NDR BigBand, Hamburg dan gyfarwyddyd yr Utganwr a’r cyfansoddwr o’r Unol Daleithiau Tim Hagans yn chwarae rhai o gyfansoddiadau newydd Julian i’r Gerddorfa Jazz gan gynnwys Tales from the Jacquard.

Darlledwyd y cyngerdd o Stiwdio 1 NDR yn Hamburg ar radio NDR.

Mae Julian wedi chwarae gyda llawer o ensembles mawr gan gynnwys Kenny Wheeler's Big Band ar yr albwm The Long Waiting (CAM Jazz), Andrew Hill's Anglo American Big Band, Hermeto Pascoal UK Big Band, taith Pen-blwydd Mike Gibbs yn ddeg a thrigain (ochr yn ochr â Bill Frisell, Steve Swallow ac Adam Nussbaum), John Taylor Big Band, Steve Gray, ‘Delightful Precipice’ Django Bates, Jazz Jamaica, Stan Sulzmann's Big Band, John Dankworth's Generation Big Band, Colin Towns Mask Orchestra, Allan Ganley, Hans Koller 'New Memories' Band gyda Steve Lacy, BBC Big Band, ‘Acoutastic Bombastic’ Jason Yarde, Nikki Iles Big Band ac ‘Amarcord’ Hal Willner gyda Carla Bley a Rita Marcotulli.

Mae Julian yn aelod o Bedwarawd Ewropeaidd Diane Schuur ers 2013 yn teithio Ewrop gydag ymddangos mewn gwyliau lawer.

Mewn bandiau bychain mae Julian wedi chwarae gyda 'Human Chain' Django Bates, ‘Drive’ Gary Husband, Mulatu Astatke, ‘Red Circle’ Simon Purcell, Laurie Anderson, Steve Nieve, Kirk Lightsey, Norma Winstone, Nigel Kennedy, Robert Mitchell, Byron Wallen, Jason Palmer, Jeff Ballard a 'Charming Transport Band' Oren Marshall yn cynnwys cerddorion o Ghana a Nigeria.

Roedd Julian yn aelod o driawd dan arweiniad y Chwedl Piano y diweddar John Taylor – chwith ar ei ôl – ochr yn ochr â’r gantores o’r Eidal Diana Torto yn chwarae cyngherddau yn yr Eidal a gwledydd Prydain rhwng 2013 a 2015. Ym mis Ionawr 2016 perfformiodd Diana a Julian, ochr yn ochr â’r Basgrythor Anders Jormin ac un o gynfyfyrwyr John, y pianydd Pablo Held, gyngerdd teyrnged i John yn Treviso, yr Eidal.

Mae Julian wedi chwarae gyda chantorion yn cynnwys y Fonesig Cleo Laine, Beverley Knight, Liane Carroll, Cleveland Watkiss, Lauren Kinsella, Joe Lee Wilson, Stuart Staples/Tindersticks (roedd y Julian Siegel Quartet ar drac sain ffilm Stuart Staples i Un Beau Soleil Intérieur Claire Denis), Amy Winehouse, Jacqueline Dankworth, Juliet Roberts, Keziah Jones,Terri Walker, Christine Tobin a’r chwedl roc pync Steve Ignorant (gynt o Crass).

Ym mis Ionawr 2021 yn ystod y cyfnod clo cafodd Julian yr anrhydedd o gael ei wahodd i chwarae ar un trac ar yr albwm newydd gan Syr John McLaughlin.Rhyddhawyd yr albwm Liberation Time ym mis Mehefin 2021 (Abstract Logix).Recordiwyd y trac ‘Right Here, Right Now, Right On’ o hirbell ym Monaco, Paris, Llundain a Cairo ac mae’n cynnwys John McLaughlin gyda Nicolas Viccaro (drymiau), Jerome Regard (basgrwth), Julian Siegel (sacsoffon tenor) ac Oz Ezzeldin (piano).