Capital City Jazz Orchestra gyda’r unawdydd gwadd arbennig Georgina Jackson - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Dydd Mawrth 23 Ionawr 2024, 6.00pm
Dewch at y Capital City Jazz Orchestra i noson gampus o gerddoriaeth Big Band. Bydd yma gerddorion Jazz sydd ymhlith goreuon De Cymru yn ei swingio hi ar hyd y nos â chymysgedd o Glasuron Big Band a’r siartiau cyfoes.
Yn gwmni i’r Capital City Jazz Orchestra dyma’r utganwr a’r gantores ddawnus sosi a bywiog ei steil - Georgina Jackson.
Ym more’i hoes (ac yn Wigan!) cafodd Georgina ryw chwilen ryfedd yn ei phen, sef cerddoriaeth Jazz a Big Band, a dechrau’i gyrfa gerddorol yn gweithio’n utganwr proffesiynol ym mhob twll a chornel a thrwy hyd a lled y wlad. Gweithiodd am flynyddoedd gydag wynebau enwog lawer, megis Frank Sinatra Junior, Nancy Sinatra a Seal a Big Bands teithiol mewn Neuaddau Cyngerdd, ar y teledu ac ar y radio.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Ar ôl canu, chwarae’r utgorn ac arwain bandiau o wahanol faint gyda cherddorion amryfath mewn oedfannau amryfath iawn, penderfynodd Georgina recordio a rhyddhau ei CD cyntaf. Gyda Jazz FM (CD yr wythnos) a Syr Michael Parkinson yn gefn, dringodd ''til there was you' i gopaon pensyfrdanol Rhif Wyth yn siartiau jazz HMV. Yn sgil sêl bendith y beirniaid ar ei halbwm cyntaf bachodd Georgina swydd ei breuddwydion yng nghlwb Jazz Ronnie Scott yn Llundain yn gantores breswyl gyda Ronnie Scotts Jazz Orchestra, lle mae’n perfformio bron pob mis ers deng mlynedd!!
Rhyddhawyd ei hail albwm Watch What Happens ym mis Mehefin 2012. Saethodd y sengl gyntaf 'Change Partners' i Rif Un yn Siart Jazz iTunes a dyfarnodd y London Evening Standard yr albwm yn CD yr wythnos ym mis Gorffennaf 2012.
Wedi hyn gwahoddwyd Georgina gan Big Band BBC Radio 2 i berfformio cyngerdd teyrnged i Peggy Lee a ddarlledwyd sawl gwaith a chael croeso cynnes, ac arwain at daith genedlaethol Peggy’s Swinging Songbook ac ymddangosiadau byw ar Friday Night is Music Night Radio 2.
Mae Georgina bellach yn gweithio drwy’r gwledydd yn Artist Cabare yn perfformio ei sioeau utgorn/llais difyr ‘One Woman’ ar y llongau mordeithio mwya’u bri yn y byd. Fe’i ceir yn aml yn perfformio ei sioe ar un o longau mawr Cunard, y Queen Mary II eiconig, wrth iddi hwylio allan o Efrog Newydd. Mae i’w chael hefyd yn canu gyda’r Echoes of Ellington Big Band a’r Jazz Repertory ac mae galw mawr amdani i berfformio ar hyd ac ar led y wlad yn ei sioe driawd a gydag unawdydd gwadd ac oedau gweithdy gyda Big Bands yma ac yn Ewrop. Ymhlith perfformiadau nodedig diweddar bu The Big Band Proms teledu’r BBC yn y Royal Albert Hall, North Sea Jazz Festival ac yn berfformiwr ar ben y rhaglen mewn cynadleddau utgorn rhyngwladol yn Hollywood, Napoli a São Paulo ym Mrasil.
Yn artist byw, mae perfformiadau swynol, dihafal Georgina yn gwneud i’w chynulleidfa chwerthin a chrio bob yn ail, yn noson sy’n hen hwyl a hanner bob gafael.