Capital City Jazz Orchestra gyda’r unawdydd gwadd arbennig Alan Barnes - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Dydd Mawrth 21 Mai 2024, 8.00pm
Dewch at y Capital City Jazz Orchestra i noson gampus o gerddoriaeth Big Band. Bydd yma gerddorion Jazz sydd ymhlith goreuon De Cymru yn ei swingio hi ar hyd y nos â chymysgedd o Glasuron Big Band a’r siartiau cyfoes.
Mae’r Capital City Jazz Orchestra yn gwahodd yn ei ôl un o’u hartistiaid gwadd mwyaf poblogaidd, y sacsoffonydd aml ei wobr Alan Barnes. Mae’n un o hoelion wyth sîn jazz Prydain ers dros ddeng mlynedd ar hugain, wedi gweithio gyda llawer o’r arweinwyr band mawr gan gynnwys Humphrey Lyttleton, Stan Tracey a John Dankworth, yn ogystal ag arwain grwpiau lawer yn ei rinwedd ei hun. Yn sgil dull chwarae afieithus Alan a'i ffraethineb difyr does dim dwywaith na chaiff pawb noson fondibethma o Jazz Big Band.
Rownd Derfynol S4C Band Cymru 2014
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.