George Benson

Bydd y sioeau byw’n rhoi llwyfan i George Benson yn canu’r gitâr yn feistrolgar, a bydd Benson a’i fand yn perfformio ei Hits Mwyaf o’i ôl-gatalog trawiadol – sy’n cynnwys clasuron fel Give Me The Night, Lady Love Me (One More Time), Turn Your Love Around, Inside Love , Never Give Up On A Good Thing ac In Your Eyes a rhagor… 

Albwm diweddaraf Benson, Walking to New Orleans mawr ei glod gan y beirniaid, teyrnged y gitarydd jazz chwedlonol i’r peiriant hits yn dyrnu’r piano Fats Domino ac i’r arwr gitâr roc gwreiddiol a’r bardd, Chuck Berry. Dyma ei bedwerydd albwm a deugain a’i recordiad cyntaf ers Inspiration: A Tribute to Nat King Cole o’r flwyddyn 2013.   

Mae Benson yn un o ganwyr gitâr mawr America, yn bencerddor a anrhydeddwyd yn Feistr Jazz gan Waddoliad Cenedlaethol y Celfyddydau. Enillodd gynifer â deg gwobr Grammy, gan gynnwys record y flwyddyn am ei recordiad platinwm triphlyg Breezin’. Ymhlith eraill, bachodd wobrau Record y Flwyddyn am This Masquerade (1977), y Perfformiad Offerynnol Pop Gorau am Breezin' (1977) a Mornin' (2007), y Perfformiad Lleisiol R&B Gwrywaidd Gorau am On Broadway (1979) a Give Me the Night (1981), a’r Perfformiad Offerynnol R&B Gorau am Theme From Good King Bad (1977) ac Off Broadway (1981). 

Y gitarydd ei hun yn anad neb a ddisgrifiodd yn fwyaf cryno ddatblygiad cerddorol George Benson, yn ei hunangofiant o’r flwyddyn 2014: "...from blues cat to blues-jazz cat...from blues-jazz cat to jazz cat...from jazz cat to soul-jazz cat...and from soul-jazz cat to R&B-jazz cat."

 

 

 
 Pris Safonol £43 (Rheng 5 – golygfa o’r cefn ac ychydig iawn o le i’r coesau)
£61 | £71
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Seddi'r stalau @
£43 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr