Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Spiers & Boden - WEDI'I GANSLO

Yng ngeiriau The Guardian ‘the finest instrumental duo on the traditional scene’, daeth Spiers a Boden i’r sîn gerdd gyntaf fel mellten i bren yn 2001; buan yr enillon nhw ddyrnaid o Wobrau Gwerin BBC Radio 2 a mynd yn eu blaenau i ffurfio a bod ar flaen y big band gwerin sgubol o lwyddiannus Bellowhead, a werthodd bob tocyn yn y Royal Albert Hall sawl gwaith, darparu arwyddgan arbennig achlysurol The Archers Radio 4 ac a glywyd yn ddiweddar ar drac sain Beyond Paradise BBC 1.  

Ailffurfiodd y deuawd poblogaidd yn 2021 ar ôl saib saith mlynedd, ac albwm newydd sbon danlli grai i’w canlyn, sef Fallow Ground aeth yn ei flaen i gyrraedd rhif tri yn Siart Albymau Gwerin Swyddogol Medi ’21 ac a oedd yn un o ddeg albwm gwerin uchaf 2021 cylchgrawn Mojo. 

Maen nhw ar daith eto yn 2024 ar gyfer dyddiadau penodol yn eu hunig daith o’r flwyddyn.

Ffrydiwch ‘Fallow Ground’ yma: https://bit.ly/3AvDG7Z

Logo Gwando'r Gwreiddiau

 
  • Prisiau ymlaen law: £21.00
  • Prisiau Ar y diwrnod: £22.00
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Poblano anabolic ag un cydymaith: £2.00 oddi with bob tocyn
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo
 

Erbyn i John Spiers a Jon Boden roi eu ffidlau mawr eu parch yn y to fel y deuawd Spiers & Boden yn 2014, roedden nhw wedi ennill eu cilfach bron heb ei hail yng nghalonnau’r gynulleidfa canu gwerin. Yng ngeiriau The Guardian ‘the finest instrumental duo on the traditional scene’, daeth Spiers & Boden i’r sîn gerdd gyntaf fel mellten i bren yn 2001; buan yr enillon nhw ddyrnaid o Wobrau Gwerin BBC Radio 2 a mynd yn eu blaenau i ddod yn un o’r hoff ddeuawdau ar sîn canu gwerin Lloegr a’r tu hwnt. Sylfaenodd John a Jon hefyd y big band gwerin arloesol a sgubol o lwyddiannus Bellowhead a hynt y band yn yr entrychion yn hawlio’u hamser fwyfwy. Ond bellach, ar ôl chwilio mentrau solo, mae’r deuawd yn ei ôl ac i’w ganlyn yr albwm Fallow Ground (Hudson Records), ac at hynny ymddangos mewn gwyliau a thaith tri oed ar hugain yng ngwledydd Prydain ym mis Hydref ’21 i ddathlu eu hailymddangosiad, oedd yn cynnwys Gŵyl Spiers & Boden werthodd bob tocyn yn Cecil Sharp House, Llundain. 

'I guess we were looking for songs during lockdown with a sense of fun and light relief. I realise that there are zero songs about death on this album, which is probably a first and may get us expelled from the English Folk Dance & Song Society. Yes, traditional songs with a joyous edge.' Jon Boden.

Cyrhaeddodd Fallow Ground rif tri ar Siart Swyddogol Albymau Gwerin Gwledydd Prydain ac Iwerddon ym mis Medi ’21 ac mae’n un o ddeg albwm uchaf 2021 cylchgrawn Mojo. Ym mis Mehefin 2023 gwerthwyd pob tocyn i’r rhan fwyaf o’u oedau cyfyngedig, hynny ar ôl dychwelyd y bu mawr aros amdano i Ŵyl Werin Ynysoedd Erch, ac wedyn ymddangos mewn gwyliau haf yn Beautiful Days, Gŵyl Werin Amwythig a Gŵyl Werin Hartlepool. Mae sioeau’n cadarnhau’n awr ar gyfer rhediad o ddyddiadau dethol ym misoedd Mawrth/Ebrill 2024.