Nathan Bell - WEDI'I GANSLO
Gwrando'r Gwreiddiau
Dydd Mawrth 30 Ionawr 2024, 7.30pm
Fe’i magwyd yn Iowa, fe’i tyfwyd yn Tennessee, yn gymêr o Americanwr â’i draed ar y ddaear, mae Nathan Bell yn creu perfformiadau byw cyfareddol â chyfuniad o straeon mae’n eu canu’n ddi-fai a dawn gerddorol syfrdanol sydd heb fod i’w chael bob gafael yn genre y canwyr-gyfansoddwyr.
A chanddo lygad craff a chlust fain o ran bywydau pobol sy’n gweithio, pobol sy’n galed eu byd a phobol aeth dros gof, mae Bell wedi hogi ei ddegawdau o ymroddiad i ganu’r felan, canu gwerin, jazz, barddoniaeth a chyfiawnder yn naws ac yn ysbryd priod iddo’i hun.
Yn fab y bardd enwog o Iowa, Marvin Bell, daeth Nathan i oed mewn cytgord â grym iaith gynnil, heb flewyn ar dafod i ddeffro yn y cof fannau a hanesion sy’n cyffroi’r galon a’r meddwl fel ei gilydd. Mudodd i Boston yn y 1980au a choethi ei sgrifennu a’i ganu gitâr ill dau ar yr un pryd ag ennill ei damaid yn gyrru lori bysgod ac yn gweithio oriau maith mewn derbynfa bwyty mewn gwesty.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
Aeth Bell yn ei ôl i Iowa yn rhan o’r deuawd gwerin Bell and Shore, a daeth sylw cenedlaethol i’w ran yn sgil ei gyfansoddi caneuon nwyfus, llythrennog a digri’n aml, yn ogystal â’i drefnu a’i ganu gitâr pencampwriaethol. Ar ôl recordio dau albwm gafodd groeso gan y beirniaid, mudodd Bell i Nashville lle gweithiodd gyda’r cynhyrchydd Richard Bennett (Steve Earle, Emmylou Harris, Marty Stuart) a rhoi cynnig ar sgrifennu ym mheiriant cerdd Twang Town.
Daeth priodas a phlant a rhoes Bell ei gitâr yn y to ac ymuno â’r byd corfforaethol, wedyn dod yn ei ôl wedi saib pymtheng mlynedd a chanddo’r olygwedd ehangach sy’n dod yn sgil oed a chyfrifoldeb. Ar ôl dod drwy loes colli gwaith dros dro, y byd ar ddisberod yn sgil y Dirwasgiad Mawr a seithuctod tirwedd wleidyddol fwyfwy dryslyd America, roedd caneuon newydd Bell yn ddrych o’i ddirnadaeth newydd o gariad, barusrwydd, bod ar y clwt ac anghyfiawnder.
Bu ei bedwarawd o CDiau Family Man a recordiodd ei hun, yn ogystal â’i sioeau byw cyfareddol, yn gyfrwng ennill i Bell garfan fwyfwy o ddilynwyr triw ymhlith ffyddloniaid y gân wedi’i sgrifennu’n dda, wedi’i chyflwyno’n ddeheuig, yn yr Unol Daleithiau, Ewrop a gwledydd Prydain.
Yn 2019 recordiodd Bell set newydd o ganeuon gyda’r cynhyrchwyr Brian Brinkerhoff a Frank Swart (Malcolm Holcombe, Guitar Shorty, Kool and the Gang), Red, White, and American Blues (it couldn’t happen here) sy’n cynnwys y lleisiau gwadd Patty Griffin, Regina McCrary ac Aubrie Sellers.