Lindisfarne - WEDI'I GANSLO
Gwrando'r Gwreiddiau
Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024, 7.30pm
Mae Neuadd Dewi Sant yn falch iawn o groesawu arloeswyr gwerin-roc chwedlonol y 70au LINDISFARNE i Gaerdydd, gyda lein-yp clasurol o bump aelod hirsefydlog dan arweiniad yr aelod-sylfaenydd Rod Clements ar llais, mandolin, ffidil a sleid-gitâr.
Mae apêl bythol LINDISFARNE yn parhau’n drech na phob disgwyliad wrth i'r band gyhoeddi blwyddyn o deithio di-baid ar gyfer 2023. Dan arweiniad yr aelod a’r sylfaenydd gwreiddiol Rod Clements, mae’r band poblogaidd ac uchel ei barch hwn o ogledd ddwyrain Lloegr yn chwarae ar ddyddiadau a fydd yn mynd â nhw i bob cornel o wledydd Prydain.
Ar gyfer 2023 mae Lindisfarne yn dwyn i gof gyfnod cofiadwy o sioeau byw a oedd yn canolbwyntio ar ryddhau yr LP byw 'Magic in The Air' ym 1977.
Gyda repertoire o ganeuon bythgofiadwy fel Meet Me On The Corner, Fog On The Tyne, Lady Eleanor a Run For Home ac enw da am berfformiad byw heb ei ail, mae pŵer LINDISFARNE i wefreiddio cynulleidfaoedd mewn gwyliau a chyngherddau yn parhau’n gadarn ac maen nhw’n sicr o gael y dorf ar eu traed yn canu gyda’r band.
LINDISFARNE 2023 yw:
ROD CLEMENTS (1969-presennol) Llais, mandolin, ffidl, gitâr
DAVE HULL-DENHOLM (1994-presennol) Llais, gitâr
STEVE DAGGETT (1986-presennol) Llais, allweddell, gitâr
IAN THOMSON (1995-presennol) Bas, llais
PAUL SMITH Drymiau
Gwefan: www.lindisfarne.com
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.