Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Fay Hield - WEDI'I GANSLO

  • Lolfa Lefel 3
 

Yn Swydd Efrog y ganed ac y magwyd yr artist gwerin a’r academwraig Fay Hield ac roedd fel petai yn yr arfaeth iddi naddu gyrfa ym myd canu gwerin traddodiadol. Daeth Fay i oed yn y Bacca Pipes Folk Club enwog yn Keighley a meithrin perthynas cymuned a thraddodiad fyddai i’w hysbrydoli.

Tra oedd hi yn y brifysgol yn Newcastle yn astudio at radd Baglor Cerddoriaeth ym maes canu gwerin a thraddodiadol, ffurfiodd y pedwarawd gwerin a cappella Witches of Elswick yn 2001 gyda’i chydletywyr. Chwalodd y pedwarawd ar ôl chwe blynedd gyda’i gilydd a chefnodd Fay ar berfformio am rai blynyddoedd i astudio at PhD.

Yn 2009, ar ôl mudo i gyrion Sheffield, daeth Fay yn ei hôl yn rhan o driawd gyda  Rob Harbron a Sam Sweeney o Leveret, yn chwarae caneuon gwerin traddodiadol anadnabyddus a berfformid yn anfynych. Rhyddhawyd ei halbwm début, Looking Glass, ar Topic Records yn 2010, yn gymysgedd o ganeuon a baledi traddodiadol. Hefyd yn 2010 cwblhaodd ei PhD ar ganu gwerin Lloegr a saernïo cymuned. 

Daeth ail albwm Fay, Orfeo, ddwy flynedd yn ddiweddarach yn 2012, a’r Hurricane Party yn gefn iddi, sef Jon Boden, Rob Harbron, Sam Sweeney, Andy Cutting a Martin Simpson. Y flwyddyn wedyn rhoes Fay yr arch-grŵp gwerin y Full English at ei gilydd, y syniwyd amdano i ddathlu dwyn ynghyd gasgliadau caneuon gwerin gan Gymdeithas Canu a Dawnsio Gwerin Lloegr drwy greu’r gronfa ddata fwyaf cynhwysfawr a chwiliadwy o ganeuon, alawon, dawnsiau ac arferion gwerin Prydain.

Ar ôl dwy flynedd o deithio gyda’r arch-grŵp ac wedi cael dwy Wobr Gwerin BBC Radio 2, aeth Fay yn ei hôl i ganolbwyntio ar ei thrydydd albwm solo. Defnyddiodd fedrau’r Hurricane Party yn gefn iddi a daeth Ben Nicholls o’r Full English ati hefyd i recordio’r albwm o’r flwyddyn 2016 Old Adam. 

Logo Gwando'r Gwreiddiau

 
  • Prisiau ymlaen law: £13.00
  • Prisiau Ar y diwrnod: £14.00
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Poblano anabolic ag un cydymaith: £2.00 oddi with bob tocyn
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo
 

Yn dilyn y prosiect ymchwil Modern Fairies o’r flwyddyn 2018-19, oedd â’i fryd ar ddwyn ffynonellau archifol goruwchnaturiol at gynulleidfaoedd cyfoes, rhyddhaodd Fay ei halbwm diweddaraf Wrackline. Mae Wrackline yn chwilio syniadau’r bwlch rhwng bodau, yn bwrw golwg ar ddrychiolaethau, tylwyth teg, ysbrydion ac anifeiliaid sy’n siarad er mwyn deall beth ynghlwm â’r anhysbys sy’n ein cyfareddu. Gan weithio gyda deunyddiau traddodiadol a’u datblygu gyda chyfansoddiadau newydd, mae Fay yn chwilio’r teimladau maen nhw’n eu deffro a sut maen nhw’n dwyn perthynas â’i phrofiad yn y byd sydd ohoni.  Mae syniadau’r hollfyd ynghlwm â marwolaeth, cariad a bod yn fam yn atseinio drwy amser a gofod. Mae’r caneuon ar Wrackline yn chwarae â’r syniadau anodd hyn drwy lygaid rhyw ‘arall’ anghaffaeladwy, pa un ai’r annwyl ymadawedig, un o’r tylwyth teg o fro arall, neu feddyliau anifeiliaid, ac yn rhoi lle i ni weithio drwy broblemau cymdeithasol real iawn. Gan syflyd rhwng caneuon ysgafnfryd am feddwon yn eistedd gyda moch, i gwestiynau tywyllach am fabanladdiad, mae Fay yn anadlu bywyd ac ystyr i mewn i hen straeon ac yn rhoi tro newydd yn eu cynffon.  Gewch chi ddisgwyl cael eich lapio mewn cerddoriaeth wedi’i gweu drwy straeon hudol a’ch pryfocio i feddwl am eich perthynas â’r byd o’ch cwmpas.