Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Brìghde Chaimbeul - WEDI'I GANSLO

  • Lolfa Lefel 3
 

Mae’r canwr pibau bychain o’r Alban, Brìghde Chaimbeul, ar flaen y gad ym maes cerddoriaeth Geltaidd arbrofol. Mae ei chanu pibau wedi ennill iddi Wobr Gwerin Ifanc y BBC a Gwobr Horizon y BBC a pherfformiodd i benaethiaid gwladwriaethau yng nghynhadledd hinsawdd Cop26. Daeth â’i hofferyn i lwyfan byd-eang a chydweithio ag amrywiaeth o artistiaid eraill – ar hyn o bryd mae i’w chlywed ar sengl newydd Caroline Polachek Blood and Butter. Yn ei hail albwm Carry Them With Us, aeth Chaimbeul y tu hwnt i ganu gwerin a darganfod man cyfarfod traddodiad a lleiafsymiaeth, gyda rhoi iddi’r rhyddid i arbrofi â sain a chreu rhywbeth cwbwl briod iddi’i hun. Cydwead llawenychol ydi Carry Them With Us, yn ddronau gweadol soniarus, awyrgylchoedd llesmair a thraddodiadau gwerin offerynnol. Yn gwmni iddi ar yr album yma mae’r chwiliwr sain a’r sacsoffonydd mawr ei glod o Ganada, Colin Stetson (Arcade Fire, Bon Iver), a gydgynhyrchodd yr albwm hefyd.

Brodor o’r Ynys Hir, Gaeleg ei mamiaith, ydi Brìghde a gwreiddiau'i harddull yn ei hiaith a’i diwylliant, ond fe’i hysbrydolir gan nifer o draddodiadau canu’r pibau o bedwar ban byd, megis Dwyrain Ewrop, Cape Breton ac Iwerddon. Cafodd ei halbwm début The Reeling (2019) andros o ymateb. Aidan O’Rourke (Lau) a’i cynhyrchodd, fe’i henwyd yn Albwm Gwerin y Mis gan The Guardian, cafodd adolygiadau pum seren yn fRoots a Songlines ill dau, fe’i canmolwyd i’r cymylau ar Late Junction BBC Radio 3 ac fe’i rhestrwyd yn un o Albymau’r Flwyddyn The Quietus. Bwriwyd pleidlais dros The Reeling yn un o Ugain Albwm Albanaidd y Flwyddyn gan Wobrau Say (o blith 293 o gynigion) a bachodd Wobr Gwerin BBC Radio 2 i Brìghde.

“Simultaneously ancient and modern, profound and direct”– 
Folk Album of the Month – The Guardian

“A unique, exciting and forward-looking album that sets the bar for 2019 very high indeed”–  The Quietus

“Exciting, unusual and gorgeous”– Songlines

“Pure, vital energy… exceptional playing”– Folk Radio

“Mesmerising” - Mark Radcliffe, BBC Radio 2 

Logo Gwando'r Gwreiddiau

 
  • Prisiau ymlaen law: £14.00
  • Prisiau Ar y diwrnod: £15.00
  • Cyfeillion Neuadd Deri Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Poblano anabolic ag un cydymaith: £2.00 oddi with bob tocyn
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo