Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Fisherman's Friends - WEDI'I GANSLO

Yn dilyn taith werthodd bob tocyn drwy hyd a lled gwledydd Prydain yn gynharach eleni, mae Fisherman's Friends wedi cyhoeddi taith fawr newydd sbon ar ben y rhaglen yn 2024!

Mae gan Fisherman’s Friends naw albwm er eu clod, dwy ffilm nodwedd, drama gerdd lwyfan, llyfr, rhaglen ddogfen deledu ac maen nhw wedi chwarae i deuluoedd brenhinol ac i ddegau o filoedd o selogion ar deithiau werthodd bob tocyn y naill flwyddyn ar ôl y llall … Naci, nid y Beatles sydd dan sylw, na Take That na chwaith One Direction – ond y Fisherman’s Friends!

Ddeng mlynedd yn ôl llofnododd y Fisherman’s Friends gytundeb recordio miliwn o bunnoedd a welodd eu halbwm Port Isaac’s Fisherman’s Friends yn cyrraedd safle Aur pan ddaethon nhw’r act canu gwerin traddodiadol gyntaf erioed i gipio lle i’w halbwm yn neg uchaf gwledydd Prydain.

A diolch i’r ffilm fach a chanddi galon fawr o’r un enw â nhw, mae stori’r ‘buoy band’ gwreiddiol o Gernyw yn adnabyddus drwy’r byd yn grwn – ynghlwm wrth ei gilydd gan brofiad ar y cyd, ers mwy na deng mlynedd ar hugain maen nhw’n dod ynghyd ar y Platt ar yr harbwr ym mhentref eu geni Port Isaac i ganu caneuon y môr, rhai o’r caneuon hynny wedi’u traddodi ers cannoedd o flynyddoedd, caneuon sy’n eu cysylltu â’r cenedlaethau o bysgotwyr Cernyw ddaeth o’u blaenau.

Y llynedd rhyddhawyd dilyniant y ffilm, Fisherman’s Friends 2. Mae’r stori’n dilyn y grŵp drwy droeon yr yrfa, o gyffro serennu ar y Llwyfan Pyramid yn Ynys Wydrin drwodd at ymlafnio i wneud ail albwm. Torrodd Fisherman’s Friends: The Musical bob record gwerthu tocynnau - dros 250,000 yng ngwledydd Prydain a Chanada.

Dyma i chi’r Fisherman’s Friends: y pysgotwr cimwch Jeremy Brown, yr awdur a’r dyn siop Jon Cleave, y tyddynnwr a’r peiriannydd John ‘Lefty’ Lethbridge, yr adeiladwr John McDonnell , y pysgotwr cimwch Jason Nicholas, y gwneuthurwr ffilmiau Toby Lobb a’r crochenydd Bill Hawkins.

Mae taith newydd sbon danlli Fisherman’s Friends yn dilyn rhesiad o ymddangosiadau mewn gwyliau dros yr haf gan gynnwys ymddangos yn Ynys Wydrin am y chweched waith.

 
  • Pris safonol: £30.50 | £37.50
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) @ £30.50 yr un

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 

 
Wedi’i ganslo