Seven Drunken Nights: The Story of the Dubliners

Ar ôl taith début aeth â hi’n aruthrol a gwerthu pob tocyn, daw Seven Drunken Nights –The Story of The Dubliners yn ôl i theatrau yn 2020 mewn cynhyrchiad mwy fyth.  Yn syth o’r West End, mae’r sioe yma’n adfywio cerddoriaeth hoff feibion Iwerddon, y Dubliners. Yn adrodd hanes gyrfa’n ymestyn dros hanner can mlynedd ac yn deffro yn y cof ysbryd Ronnie Drew, Luke Kelly, Barney McKenna, Jim McCann, Ciaran Bourke a John Sheahan. Mae’r cast dawnus yma o gerddorion a chanwyr yn rhoi bywyd o’r newydd i gerddoriaeth y grŵp eiconig yma. Gamp i chi allu peidio â morio canu a churo dwylo yn y perfformiad yma pan glywch chi glasuron fel The Wild Rover, The Black Velvet Band, The Irish Rover, Molly Malone, Finnegan’s Wake, McAlpines Fusileers, Raglan Road ac wrth gwrs Seven Drunken Nights. Yn y bôn, dathlu cerddoriaeth Iwerddon ei hun mae’r sioe yma sy’n dathlu cerddoriaeth y Dubliners, a does dim dau na fydd yn noson o gerddoriaeth, smaldod a ‘craic’.

 
 Pris Safonol £27
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith
£2 yn llai
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar  029 2087 8444)  £2 oddi wrth bob tocyn

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr