Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 8 Chwefror 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07391 791934. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Seven Drunken Nights: The Story of the Dubliners - AILDREFNU
Dydd Mercher 2 Mehefin 2021, 7.30pm
**AD-DREFNU SIOE | DYDDIAD NEWYDD 02.06.2021 **
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Seven Drunken Nights nos Mercher 6 May 2020, 7.30pm wedi’i ohirio tan nos Mercher 2 Mehefin 2021 7.30pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Seven Drunken Nights: The Story of the Dubliners - AILDREFNU
Yn dilyn teithiau sgubol o lwyddiannus a werthodd bob tocyn, daw Seven Drunken Nights – The Story of The Dubliners yn ei ôl i theatrau mewn cynhyrchiad mwy fyth.
Yn syth o’r West End, mae’r sioe’n rhoi bywyd o’r newydd i gerddoriaeth hoff feibion Iwerddon y Dubliners.Dyma adrodd stori gyrfa’n ymestyn dros hanner can mlynedd a deffro yn y cof ysbryd Ronnie Drew, Luke Kelly, Barney McKenna, Jim McCann, Ciaran Bourke a John Sheahan.Mae’r cast dawnus o gerddorion a chanwyr yn bywiogi drwyddi gerddoriaeth y grŵp eiconig yma.
Perfformiad ydi hwn fydd yn cael gennych forio canu a churo dwylo gyda chlasuron megis The Wild Rover, The Black Velvet Band, The Irish Rover, Molly Malone, Finnegan’s Wake, McAlpines Fusileers, Raglan Road ac wrth reswm pawb The Seven Drunken Nights.
Dathliad o gerddoriaeth Iwerddon ei hun ydi’r dathliad yma o gerddoriaeth y Dubliners a, does dim dwywaith, noson o gerddoriaeth, smaldod a ‘craic’.
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £2 yn llai
Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): £2 oddi wrth bob tocyn
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom. *Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.