Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth. 

Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan 4 Mehefin gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU.  Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf.

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Sam Sweeney Band

  • Lolfa Lefel 3
 

Ar ôl rhoi cychwyn ar yrfa solo, rhyddhau ei albwm solo début The Unfinished Violin ar Island Records a mynd ag ef ar daith i dyrfaoedd mewn oedfannau dan eu sang ar daith lansio’r albwm yn 2019, yng ngwanwyn 2020 mae Sam yn rhyddhau ei ail albwm solo y bu mawr edrych ymlaen ato. 

Yn symud ymlaen o’i gysylltiad pum mlynedd â’r Rhyfel Byd Cyntaf, a ysbrydolodd ei albwm cyntaf, a chipio calonnau cenhedloedd Prydain yn sgìl ymddangos ar Antiques Roadshow a BBC Breakfast, ochr yn ochr â BBC Radio 2, 3, 4 a 6 Cerddoriaeth, mae Sam yn torri’i gŵys ei hun yn ei gerddora, gyda thri o’i hoff gerddorion, a chydag ymagwedd gwbl newydd a môr o sain. 

Mae Sam a’i fand newydd yn rhoi rhywbeth yng ngherddoriaeth Lloegr na fu yno erioed o’r blaen.   Mae i’r albwm holl swagar a rhythm cerddoriaeth draddodiadol Lloegr ynghyd â sain enfawr, dawn, egni ac ysbryd gŵyl y bandiau sy’n dod i’r fei o sîns cerddoriaeth y gwledydd Celtaidd a Llychlyn. 

Mae’r albwm newydd yn byw ac yn bod mewn seinfyd pur wahanol i The Unfinished Violin.  Gan gefnu ar adrannau’r tannau, y piano, a’r harmoniwm, mae’r band newydd yn cynnwys gitarau acwstig a thrydan a’r basgrwth. 

Jack Rutter – gitâr (Seth Lakeman, Jackie Oates, Moore Moss Rutter)

Ben Nicholls – basgrwth (Seth Lakeman, Nadine Shah, Kings Of The South Seas, Wild Rose, The Full English)

Louis Campbell – gitâr trydan (aelod o’r Ensemble Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol 2016 – 18, BBC Introducing gyda’r Big Massive Orchestra, yn astudio’r gitâr yn RNCM) 

Mae Sam yn un o hen lofiau’r hyrddwynt Bellowhead, yn gyfarwyddwr artistig gynt yr Ensemble Gwerin Ieuenctid Cenedlaethol, yn un o aelodau sylfaenu’r triawd offerynnol mawr ei glod Leveret, ac yn offerynnwr gwych yn rheng flaen yr adfywiad yng ngherddoriaeth draddodiadol Lloegr.

 
 Pris Safonol £18 

 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith

£2 oddi wrth bob tocyn

 A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr