The Snowman including Wallace and Gromit: The Wrong Trousers - WEDI'I GANSLO
Dydd Iau 7 Rhagfyr 2023, 6.30pm
Arweinydd: George Morton
Gwnewch hwn yn Dolig i’w gofio â pherfformiad sy’n cynnwys dwy ffilm eiconig o blith hoff fywddarluniau gwledydd Prydain, The Snowman a Wallace & Gromit: The Wrong Trousers, i gyfeiliant byw gan gerddorfa broffesiynol dan gamp.
Cyflwynir y sioe arobryn gan Carrot Productions – perfformwyr blaenllaw’r byd y ffilm The Snowman gyda cherddorfa, sydd ar hyn o bryd yn dathlu eu dengmlwyddiant – ac mae cerddorion gyda goreuon gwledydd Prydain yn ei bywiogi’n drawiadol.
Ochr yn ochr â’r ffilm The Snowman, taith wib Dolig o gwmpas y gerddorfa a’r Dyn Eira ei hun yn rhoi tro amdanom, dewch at hoff ddyfeisiwr pawb, y cawsgarwr Wallace a’i gydymaith cywir, Gromit, yn ffilm fawr ei gwobr Aardman, The Wrong Trousers (yn cynnwys yr olygfa ras drenau orau grëwyd erioed).
Ar ôl y perfformiad mae croeso i bawb ddod i lawr i gyfarfod y cerddorion, gweld eu hofferynnau ac edmygu eu gwisgoedd gwych hefyd!
Does dim dwywaith na fydd y sioe arobryn hudol yma’n creu atgofion cu i’r teulu i gyd. Codwch docyn rhag blaen, maen nhw’n gwerthu fel slecs!
Lluniau © Snowman Enterprises Limited © a TM Aardman/W&G Ltd. Cedwir pob hawl.
Amseroedd rhedeg: 70 munud ynghyd â chyfwng 20 munud (1 awr 30)
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.