Love Actually: Cyngerdd Byw gyda Cherddorfa Lawn

Richard Curtis gyfarwyddodd Love Actually a ryddhawyd gyntaf yn y pictiwrs yn 2003, yn adrodd deg hanes ar wahân ond sydd eto’n cyd-weu – straeon caru adeg y Nadolig.

Yn y sioeau yma bydd cerddorfa fyw, lawn yn perfformio sgôr atgofus Craig Armstrong, gyda thaflunio’r ffilm ar sgrin enfawr. Mae Armstrong ymhlith cyfansoddwyr ffilm mwyaf cydnabyddedig gwledydd Prydain a dyfarnwyd BAFTA i’w waith am ei Orchest ym maes Cerddoriaeth Ffilm.

Bellach mae’r ffilm yn draddodiad Nadolig i lawer, a chaiff cynulleidfaoedd sy’n dod i Daith Gyngerdd Fyw Love Actually wledd – sef ffordd ddi-ail o wylio’r ffilm sy’n codi ysbryd y gwyliau ar gynifer ers pymtheng mlynedd

 
 Pris Safonol £42 | £52 | £67.50
 Defnyddwyr cadair olwyn ac un cydymaith (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) seddi'r stalau @ £42 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 

 
Bwciwch Nawr