The Holiday mewn Cyngerdd - LLEOLIAD A NEWID DYDDIAD
Dydd Gwener 15 Rhagfyr 2023, 7.30pm
Yn y gaeaf bydd yr hoff ffilm Dolig, The Holiday, yn cael ei chyflwyno’n fyw mewn cyngerdd ledled gwledydd Prydain, yn cynnwys ei sgôr gerddorol hudol yn cael ei pherfformio’n fyw i gyfeilio i’r ffilm gan gerddorfa gyngerdd gyflawn ac mae yna oed yn y Neuadd ar 15 Rhagfyr.
Yn sgil y clod a’r croeso gafodd y ddwy sioe début y llynedd yn Glasgow a Llundain, daw The Holiday yn ei hôl ar daith ddeg sioe enfawr dros y Dolig.
Mae’r profiad cyngerdd gyda cherddorfa lawn yn ffordd o forio’n llwyr yn The Holiday, ddaeth i lawer yn rhywbeth mae’n rhaid ei weld dros y Dolig.
Un o gynyrchiadau Universal Pictures ydi The Holiday ac ynddi’n sêr Cameron Diaz, Kate Winslet, Jude Law a Jack Black, sy’n adrodd stori dwy ddynes sydd heb gyfarfod erioed ac sy’n byw chwe mil o filltiroedd ar wahân yn eu cael eu hunain yn yr un lle’n union.
Maen nhw’n cyfarfod ar lein ar wefan ffeirio cartrefi ac, yn y twymiad, yn ffeirio cartrefi am y gwyliau. Mae Iris yn mudo i dŷ Amanda yn L.A. yn y Galiffornia heulog ac Amanda’n landio yng nghefn gwlad Lloegr yng nghanol yr eira. Toc wedi cyrraedd pen y daith mae’r ddwy wraig yn taro ar y peth diwethaf mae’r un o’r ddwy nac yn ei ddymuno nac yn ei ddisgwyl – carwriaeth newydd.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.