Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Dirty Dancing in Concert

Ymunwch â ni ar gyfer Dirty Dancing in Concert, profiad ffilm-i-gyngerdd byw cyntaf y ffilm glasurol. Mwynhewch y ffilm boblogaidd ar newydd wedd ddigidol ar sgrin sinema maint llawn, gyda band a chantorion byw’n perfformio caneuon eiconig y ffilm. Gyda thrac sain oedd yn cynrychioli cenhedlaeth gyfan, mae  Dirty Dancing in Concert yn addo dod â phrofiad gwefreiddiol, newydd ac unigryw i’r clasur o’r 80au.

Yn syth ar ôl y ffilm, bydd y band a'r cantorion yn cynnal parti encore a fydd yn sicr o fynd â chi'n ôl i’r gorffennol wrth i chi ganu a dawnsio i'ch hoff ganeuon Dirty Dancing.

Ymgollwch yn y rhamant oesol a phrofi un o ffilmiau mwyaf cofiadwy'r 30+ mlynedd diwethaf - yn fyw!

Dirty Dancing banner

 
  • Pris safonol: £28.00 | £35.00 | £41.50 | £48.00 | £58.00
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag n cydymaith (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934): Seddi’r stalau am £28.00 y tocyn.

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr