Pasión de Buena Vista - WEDI'I GANSLO
Dydd Mercher 28 Chwefror 2024, 7.30pm
“Hot, passionate, authentic and energetic – sensational music, vocals,
incredible rhythms and dancing” The Times
Yn syth o Hafana dyma’r gerddoriaeth gyda gorau’r byd a’r angerdd Lladin mae Cuba’n enwog amdanyn nhw, a’r sioe cerdd a dawns arobryn, Pasión de Buena Vista, yn hyrddio i wledydd Prydain, yn ensemble trawiadol deuddarn ar bymtheg o gerddorion, canwyr a dawnswyr dawnus sy’n cynnwys y Cyfarwyddwr Cerddorol a’r canwr chwedlonol Pelayo Oxamendi, a weithiodd ochr yn ochr â’r artistiaid o’r Buena Vista Social Club eiconig.
Mae’r Buena Vista Band deuddeg darn medrus tu hwnt yn ymuno â’r cwmni dawns enwog o Cuba El Grupo de Bailar yn y sioe fyw yma sy’n codi’r galon. Bydd yn mynd â chi o hwyl a gwres clwb cabare byd-enwog Hafana i glybiau jazz eiriasboeth Cuba ac yn eich cipio ar eich pen i oes cerddoriaeth go iawn Cuba mewn sioe ddigon i fynd â’ch gwynt chi o ddawnsiau a rhythmau naturiol mwyaf eiconig yr ynys gan gynnwys y Salsa, y Mambo, y Cha-cha-cha, y Danzón a’r Bolero na fedrwch chi ddim maddau iddyn nhw.
Nid dim ond sioe mo hon, ond gwyliau i lannau lliwgar, a’r gerddoriaeth ferw, y cefnlenni trawiadol, y gwisgoedd gwych a’r coreograffi cywrain yn eich cyfareddu yn y noson ryfeddol yma yn y Caribî.
“Pasión de Buena Vista rocks with Cuban magic. The very best in Cuban and
Latin music and spectacular dance. London Evening Standard
Cysylltu â Pasión de Buena Vista
Gwefan: www.pasion-de-buena-vista.co.uk
Instagram: www.instagram.com/pasiondebuenavistauk/
Facebook: www.facebook.com/pasiondebuenavistauk
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.