Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Giovanni Pernice - WEDI'I GANSLO

Strictly Theatre Co.
yn cyflwyno
GIOVANNI PERNICE - LET ME ENTERTAIN YOU


Y dyn sioe mwyaf erioed yn ei ôl!

Mae Giovanni Pernice yn ei ôl yn 2024 ar ei daith fyw newydd sbon danlli grai - LET ME ENTERTAIN YOU.

Mae’r pencampwr Strictly Come Dancing a’r enillydd BAFTA yn ymgorffori adloniant byw.

Yn gwmni i Giovanni bydd cast gyda gorau’r byd o ddawnswyr proffesiynol a pherfformwyr West End i ddod â phrofiad bythgofiadwy i chi.

Sioe sy’n llawn mynd o’r dechrau i’r diwedd – gewch chi’ch difyrru does dim dau.

Yn ddawnsiwr, yn berfformiwr, yn ddyn sioe…Giovanni ydi Y Difyrrwr! 

 
  ***** A Masterclass in Entertainment Aberdeen Press & Journal

***** Giovanni was the Perfect Entertainer Northampton Chronicle

***** Probably the most popular dancer on Strictly Come Dancing… EVER The Mancunion

Adolygiadau teithiau 2022 a 2023

Gwybodaeth am Gwrdd a Chyfarch VIP -
Mae tocynnau Cwrdd a Chyfarch VIP yn cynnwys tocyn i’r sioe, a chwrdd a chyfarch Giovanni i gael tynnu lluniau a chael llofnod, print wedi’i lofnodi a chortyn gwddw VIP.

Dyddiadau un sioe, h.y. perfformiadau matinée NEU gyda’r nos -
Mae’r Cwrdd a Chyfarch CYN Y SIOE, ddwyawr cyn dechrau’r sioe. Rhaid i ddalwyr tocynnau VIP gyrraedd o leiaf ddeng munud cyn dechrau’r cwrdd a chyfarch. Hwyrach na chaiff hwyrddyfodiaid mo’u derbyn. 

Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn y perfformiad yma
Mae Seddi BSL ar gael yn ymyl y Dehonglwr BSL yn y Stalau a Rheng 3.  Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 os oes arnoch eisiau cadw un o’r rhain.

Gwybodaeth dros ben -
Argymhelliad Oed 8+

Gallai gynnwys tawch, mwg, pyrotechneg a goleuadau’n fflachio.
Hyd y sioe: Tua dwyawr (gan gynnwys egwyl) 

 
  • Pris safonol: £35.50 | £46.50 | £53.00
  • Cwrdd a Chyfarch VIP cyfyngedig: £120.00
    • Mae tocynnau Cwrdd a Chyfarch VIP yn cynnwys tocyn i’r sioe,  a chwrdd a chyfarch Giovanni i gael tynnu lluniau a chael llofnod, print wedi’i lofnodichortyn gwddw VIP.

    • Mae’r Cwrdd a Chyfarch CYN Y SIOE, ddwyawr cyn i’r sioe ddechrau. Rhaid i ddalwyr tocynnau VIP gyrraedd o leiaf ddeng munud cyn dechrau’r cwrdd a chyfarch. Hwyrach na chaiff hwyrddyfodiaid mo’u derbyn.
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith @ £35.50 yr un
  • Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn y perfformiad yma
    Mae Seddi BSL ar gael yn ymyl y Dehonglwr BSL yn y Stalau a Rheng 3.  Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 02920 878444 os oes arnoch eisiau cadw un o’r rhain.

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Wedi’i ganslo