Aljaž a Janette - WEDI'I GANSLO
Dancing in a Winter Wonderland
Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023, 7.30pm
Dyma ddwy o chwedlau Strictly, Janette Manrara ac Aljaž Škorjanec, yn eu holau yn 2023 mewn strafangansa Dolig eto, yn ganu a dawnsio ofnadwy o ddifyr.
Y llynedd cadwodd Aljaz a Janette yr addewid, sef cyflwyno’r sioe ddawns jiwcbocs Dolig orau erioed. Dyna resipi Dolig perffaith 2022!
Eleni bydd y ddau’n dawnsio’r holl ffordd i Wlad Hud y Geaf mewn sioe newydd sbon danlli sy’n dathlu drwy ganu a dawnsio’r traddodiadau Dolig gorau oll. Bydd y cynhyrchiad yma sy’n eli i’r galon yn heigio gan actau dawns a ffefrynnau Dolig i’r teulu i gyd ac at hynny hon fydd sioe fyw gyntaf Aljaz a Janette ers iddyn nhw ddod yn rhieni ac wrth gwrs hwn fydd eu Dolig cyntaf fel teulu!!!!
Dyma gyfuno coreograffi gyda gorau’r byd, gwisgoedd bondibethma a setiau gwych â hits mwya’r Dolig. Unwaith eto, yn gefn i gwpwl enwocaf Strictly bydd cast yn cynnwys dawnswyr a chanwyr gyda goreuon gwledydd Prydain yn y swae syfrdanol yma ar drothwy’r Dolig. Cracar Dolig o sioe rhy dda i’w cholli fydd yn fwy ac yn well nag erioed yn 2023!
Mae ’na le i bawb ar ein sled… felly dewch heibio ac awn am dro arni a dathlu’r adeg arbennig yma o’r flwyddyn gyda’n gilydd!
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.