Remembering the Oscars

Yn syth ar ôl eu taith i dai dan eu sang yn y sioe ddifyr dros ben ac arloesol Remembering The Movies, daw Aljaz a Janette yn eu holau ac i’w canlyn eu sioe newydd sbon danlli grai Remembering The Oscars. Hwyliwch i ddathlu’r caneuon enillodd wobrau Oscar yn y swae ddawnsio newydd lawenychol yma yng nghwmni hoff gwpwl Strictly, Aljaz a Janette. 

Pa un a ydych chi’n Wishing On A Star, Swinging On A Star neu ddim ond yn dawnsio yn y City of Stars, bydd y cynhyrchiad anhygoel yma’n mynd â chi o ffefrynnau’r teulu gan Disney, drwodd i Oesau Aur Hollywood a Bollywood, â chaneuon gan Lady Gaga, Adele, Prince, Queen, Eminem, Celine Dion a Barbra Streisand, yn ogystal â chlasuron gan gyfansoddwyr caneuon chwedlonol fel Burt Bacharach, John Barry, Rodgers & Hammerstein, Irving Berlin a llawer at hynny. 

Mae yma gast o ddawnswyr a cherddorion gwych a chynlluniau llwyfan a gwisgoedd syfrdanol a sgrîn LED anferthol - does dim dwywaith na fydd y sbloet ddisgleirwych yma’n noson i’w chofio.  

Methu mynd i’r Oscars eleni? Peidiwch â phoeni, mae’r sioe yma’n addo i chi’r peth ail orau!

 
 Pris Safonol £28 | £31.50 | £40.50 | £45.50
 Cwrdd a Chyfarch am 5.30pm
Yn cynnwys Llun wedi’i lofnodi a Chofrodd Laminedig VIP 
£100 (yn ychwanegol)
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) seddi'r stalau @ £28 pob tocyn

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr