Rydym yn defnyddio briwsion

Rydym wrth ein boddau o gyhoeddi bod ein Swyddfa Docynnau yn ailagor i’r cyhoedd o ddydd Mercher 26 Ionawr 2022 allan, o hanner awr wedi naw tan bump o’r gloch, pan fyddwn yn dychwelyd at ein rhif arferol, sef 029 2087 8444. 

A chyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn codi o ddydd Gwener 26 Ionawr 2022 allan, ein sioe gyntaf pan ddown yn ein holau fydd Luther am hanner awr wedi saith y noson honno. 

Diolch o galon i chi am ddal i fod yn gefn i ni ac am eich amynedd dros yr ychydig wythnosau aeth heibio.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Anton and Erin: Showtime

Dewch at hoff bâr neuadd ddawns ein cenhedloedd a hwythau’n dod yn eu holau i Theatrau gwledydd Prydain yn eu sioe newydd sbon danlli grai at 2022. Dathliad perfriol ydi SHOWTIME sy’n talu teyrnged i rai o eiconau adloniant mwya’r oesoedd. Mae Anton & Erin yn cyflwyno dawnsio gyda gorau’r byd a ysbrydolwyd gan gymanfa o berfformwyr clasurol. Bydd y sioe’n cychwyn dan lamu â goreuon Prydain yn cynnwys Elton John, Tom Jones, Shirley Bassey a’r Spice Girls, yn mynd rhagddi â crème de la crème Hollywood sef Fred Astaire, Frank Sinatra, Charlie Chaplin, drwodd i gewri pop yr Unol Daleithiau Beyoncé, John Legend a hylltod at hynny.

Mae SHOWTIME yn ddifyrrwch penigamp i’r teulu i gyd, yn wisgoedd trawiadol, yn ganu byw bendigedig, ensemble dawns gwefreiddiol o’r West End, cerddorfa dri darn ar hugain ddigon o ryfeddod a seiat holi at ateb arbennig i’r gynulleidfDyma i chi gerddoriaeth, dawnsio, swyn - a dihangdod mae ei fawr angen!  

Mae Anton & Erin yn eu holau’n fyw ar lwyfan yn 2022 ...  SHOWTIME ydi hi!

 
  • Pris Safonol: £30 | £39.50 | £46 | £52.50
  • Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau): Seddi'r stalau @ £30 pob tocyn
  • Grwpiau o 10 neu’n fwy (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): 20% i ffwrdd

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr