Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Simon Callaghan - WEDI'I GANSLO

Rhaglen

Beethoven Sonata in C minor Op.13 ‘Pathétique’
Debussy La plus que lente L128 
Grainger Country Gardens 
Debussy Préludes, Book 1 L125 IV: Les sons et les parfums tournent dans l’air du soir 
Grainger Molly on the Shore 
Debussy Préludes, Book 1 L125 VIII: La fille aux cheveux de lin 
Stravinsky (arr. Agosti) The Firebird Suite 

Mae Simon Callaghan yn perfformio drwy’r gwledydd yn unawdydd ac yn gerddor siambr, ochr yn ochr â gyrfa ysgubol o lwyddiannus yn artist recordio.Mae Callaghan ymhlith yr hoff berfformwyr yn yr ŵyl enwog drwy’r byd yn grwn, Gŵyl Darnau Anghyffredin i’r Piano Husum yn yr Almaen, a chlod VAN Magazine i’w gyngerdd diweddar dan ei sang oedd “cleverly curated recital full of discoveries” a geiriau’r Frankfurter Allgemeine Zeitung oedd “technegol ddisglair”.Casglodd Callaghan fyrddiwn o ddilynwyr ac mae i’w weld yn rheolaidd ym mhennaf neuaddau cyngerdd gwledydd Prydain ac ar daith yn Asia, Gogledd America ac Ewrop.  Ymhlith ei bartneriaid datganiad bu Sheku Kanneh-Mason, Nicholas Daniel, Adrian Brendel, Feng Ning, Samuel West, Prunella Scales a Timothy West.Mae gan Callaghan a Coco Tomita, un o Derfynwyr Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC, bartneriaeth ddeuawd lwyddiannus welodd ryddhau eu record gyntaf yn 2022 ar Orchid Classics.  Mae hefyd yn un o aelodau sylfaenu’r Piatti Ensemble, yntau’n ymuno â chydweithwyr o’r Piatti Quartet i roi stondin i’r repertoire i’r pedwarawd piano gan ganolbwyntio’n arbennig ar adfywio gweithiau aeth dros gof.

Mae disglyfr eclectig mawr ei fri Simon Callaghan yn cynnwys recordiadau i Hyperion, Nimbus a Lyrita.  Mae’n amlwg ei le ar BBC Radio 3 ac ar amrywiaeth o lwyfannau ffrydio, a’i sengl ddiweddaraf ar Apple Music gyda Coco Tomita yn cael ei ffrydio fwy na miliwn o weithiau ym mis cyntaf ei rhyddhau.Mae’n frwd dros y cyfryngau cymdeithasol, yn eu defnyddio’n foddion hyrwyddo cerddoriaeth glasurol yn gyffredinol ond yn eu gweld yn erfyn neilltuol gael iddo bleidio’r prin a’r anhysbys.

"...velvet-gloved pianism of ravishing sensitivity" The Strad

"...Simon Callaghan played with breath-taking nuance in the extremely complex, intricate "Le Jardin parfumé" by Kaikhosru Sorabji." Deutschlandfunk

"One only can wonder what Simon Callaghan will turn his attention to next. Whatever it is, I’ll bet his performances will be as rapturous as those on the present CD. Highly recommended." Fanfare

"...quick and witty pianism, such graceful technique, an acute sensibility that carries a strong awareness for the core meaning behind the work." Record Geijutsu 

 
  • Pris Safonol: £6.50 Ymlaen llaw | £7.50 Ar y diwrnod
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith: £5.50 Ymlaen llaw | £6.50 Ar y diwrnod
  • Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

Logo Hynt

 
Wedi’i ganslo
 

Mae repertoire eang Callaghan yn cwmpasu hoelion wyth y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif ac yn canolbwyntio fwyfwy ar lawer sy’n brin ac yn anhysbys gan gynnwys, er enghraifft, Bernhard Scholz, Josef Rheinberger a Carl Reinecke.  Un o gonglfeini ei waith ydi ei ymroddiad i gerddoriaeth Prydain ac yn ddiweddar cychwynnodd gyfres ar Lyrita, yn recordio premières byd concerti o Brydain gyda Martyn Brabbins a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.  Gwnaeth Callaghan hefyd recordiadau cyntaf y gerddoriaeth gyflawn i’r piano gan Rebecca Clarke, George Dyson a William Busch.Erbyn diwedd 2023 bydd hefyd wedi recordio pedwar albwm i gyfres enwog Hyperion, The Romantic Piano Concerto.Roedd ei ddisg cyntaf i Hyperion, gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC yn yr Alban, yn rhan o’i PhD yn y Royal Northern College of Music ac fe’i clodforwyd gan Andrew McGregor ar BBC Radio 3: “I have nothing but praise for the performances... impressive pianism”.

Lansiodd Callaghan fenter gynhwysfawr ynghlwm â Poulenc i Nimbus Records yn 2019 a recordio L’histoire de Babar gyda’r actor Miriam Margolyes.Cafodd yr albwm bum seren gan Michael Church, adolygydd The Independent:“here, thanks to Harry Potter actor Miriam Margolyes’s artistry and Simon Callaghan’s excellent pianism, is Poulenc’s delightful musical response.And as I listened to this recording, I found the original drawings reappearing in my mind with all their detail intact – extraordinary.It lasts just 30 minutes, but my god does it resonate.”Yn sgil bri a phrofiad Simon Callaghan ym maes cerddoriaeth siambr fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yn Conway Hall enwog Llundain, dim ond chweched deiliad y swydd ers sylfaenu’r gyfres ym 1887.  Mae Callaghan yn cydweithio â Roger Vignoles, un o gyfeilyddion piano mwya’i fri yr oes sydd ohoni, ar elfen newydd - datganiad cân - i’r gyfres yn 2023/24.  Fe’i hetholwyd yn Artist Steinway yn 2012.