Jonathan Leibovitz, Clarinét a Joseph Havlat, Piano - WEDI'I GANSLO
Cyngerdd Awr Ginio
Dydd Mawrth 30 Ionawr 2024, 1.00pm
Rhaglen
Weinberg : Sonata i’r Clarinét a’r Piano, Op 28
Brahms : Brahms : Sonata i’r Clarinét Rhif 2 yn E feddalnod fwyaf, Op 120
Poulenc : Poulenc: Sonata i’r Clarinét
Jonathan Leibovitz
Yn 2022 roedd Jonathan yn un o’r enillwyr yng Nghlyweliadau Rhyngwladol yr Ymddirieolaeth Artistiaid Clasurol Ifainc (YCAT) a’r Urdd Artistiaid Cyngerdd (Efrog Newydd) a gynhaliwyd yn Wigmore Hall.
Aeth yn ei flaen i gael Gwobr o fri Sefydliad Arthur Waser a Cherddorfa Symffoni Lucerne. Pum mil ar hugain o ffranciau’r Swistir ydi gwaddol y wobr.
Enwebwyd Jonathan yn Artist sy’n Seren Dydd a Ddaw 2022 gan Classic FM, a’r tymor yma mae’n ymddangos yn unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni Lucerne, London Mozart Players, Cerddorfa Symffoni Gävle, Ffilharmonig Wladol Slofac Košice dan arweiniad Tomaš Brauner, Sinffonia Jyväskylä dan arweiniad Yoel Gamzou, a Sinffonieta Israel.
Joseph Havlat
Pianydd a chyfansoddwr o Hobart, Awstralia ydi Joseph Havlat, sydd â’i gartref yn Llundain.Yn gweithio’n unawdydd ac yn gerddor siambr gyda cherddoriaeth newydd iawn, hen iawn ac ambell i beth rhwng y ddau, perfformiodd mewn oedfannau cyngerdd mawr ledled gwledydd Prydain, Ewrop, America, Japan ac Awstralia.
Mae’n ddehonglwr blaenllaw cerddoriaeth newydd, wedi cydweithio â chyfansoddwyr megis Hans Abrahamsen, John Adams, Thomas Adès, Gerald Barry, Brett Dean, Syr Harrison Birtwistle, Michael Finnissy a Thomas Larcher.Yn gerddor siambr perfformiodd gyda William Bennett, James Ehnes, Steven Isserlis, Katalin Károlyi a Jack Liebeck, ochr yn ochr â’i bartneriaid deuawd rheolaidd Lotte Betts-Dean, Charlotte Saluste-Bridoux a Tim Posner.
Mae hefyd yn aelod o ensemble offerynnau taro LSO y rhyddhaodd CD gyda nhw ar label LSO Live, yn cynnwys recordiad première gwaith John Adams i ddau biano Roll Over Beethoven.Yn gyfansoddwr mae ei gerddoriaeth yn aml yn chwilio seiniau byd natur, yn frith o siapiau mwy garw moderniaeth dyn.Sgrifennodd gerddoriaeth yn amrywio o’r llais solo i ensemble mawr, yn cynnwys i Ensemble x.y, y mae’n un o’i aelodau sylfaenu.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.
Mae’n recordio ac yn perfformio cerddoriaeth siambr gyda Südwestrundfunk yn Bruchsaal ac yn rhoi cyngherddau yng Ngŵyl Verbier, a Gwyliau Crusell, Rauna a Hauho yn y Ffindir. Ymhellach draw mae’n cymryd rhan yng Ngŵyl Cerddoriaeth Siambr Bendigo yn Awstralia ac yn mynd ar daith yng Ngholombia. Ymhlith oedau cerddoriaeth siambr i ddod bydd perfformiadau yn Concertgebouw Amsterdam, Alte Oper Frankfurt, Konzerthaus Berlin a Vancouver Recital Society, ac at hynny ymddangos droeon yng ngwledydd Prydain gan gynnwys Saffron Hall a Wigmore Hall. Yn hydref 2023 bydd Jonathan hefyd yn gwneud recordiad i Delphian Records ochr yn ochr â’r ffidler Charlotte Saluste-Bridoux a’r pianydd Joseph Havlat.
Enillodd Jonathan brif wobrau mewn cystadleuthau mawr yn Israel ac Ewrop, gan gynnwys y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Crusell fawr ei bri yn y Ffindir a Gwobr Arbennig yng Nghystadleuaeth Carl Nielsen yn Nenmarc ac yn 2022 cwblhaodd ei Radd Meistr yn yr Academi Gerdd yn Basel gyda François Benda.
Ymhlith uchelfannau solo cynt bu ymddangos gyda Cherddorfeydd Ffilharmonig Israel, Siambr Israel, Symffonig Haifa, Siambr Ostrobothnia, Siambr y Lapdir a Symffoni Kuopio yn gweithio gydag arweinwyr yn cynnwys Elena Schwarz, Adrien Perruchon a Tung-Chieh Chuang.
Mae Jonathan yn gerddor siambr brwd a sylfaenodd Bumawd Chwyth Avir a chydweithio â’r ‘Mietar Ensemble’ a Cherddorion Cyfoes Israel. Rhoes ddatganiadau ledled Israel, yn yr Almaen, y Swistir a’r Ffindir.
Gwnaeth Jonathan ei début gyda Cherddorfa Ffilharmonig Israel yn ddeunaw oed yn perfformio Concerto Clarinét Mozart. Yn ystod tymor 2019/20 ymunodd â Ffilharmonig Israel yn aelod, ac ymddangos yn westai gyda Cherddorfa Symffoni Jerwsalem, Siambr Israel a Camerata Jerwsalem.
Yn Tel-Aviv ym 1997 y ganed Jonathan a chychwynnodd ei addysg gerddorol gydag Eva Wasserman. Aeth yn ei flaen i astudio gyda Yevgeny Yehudin yn Ysgol Gerdd Buchmann Mehta lle’r enillodd wobrau lawer gan gynnwys gwobr gyntaf lawryfog Cystadleuaeth Aviv yr AICF (2020) a Chystadleuaeth Chwyth Israel (2016 a 2018). Eleni bydd Jonathan yn gwneud ei radd 'Meistr o unawdydd’ yn Basel dan yr Athro François Benda a’r Athro Claudio Martinez Mehner.
Mae ei waith ar hyn o bryd yn cynnwys trio piano i Trio Mazzolini, a darn ensemble cymysg i Ŵyl Cerddoriaeth Siambr Awstralia y bydd yn mynd yn ôl iddi yn yr haf.
Astudiodd Joseph yn y Royal Academy of Music yn Llundain dan yr Athro Joanna MacGregor, lle cafodd ei BMus a’i MMus gyda chlod, gan gynnwys gwobrau am deilyngdod eithriadol yn fyfyriwr a’r marc datganiad uchaf i bianydd ôl-raddedig.Bu’n Artist Ifanc St. John’s Smith Square, Gŵyl Lieder Rhydychen a Chymdeithas Gyngerdd Kirckman, ac roedd yn enillydd un o wobrau cyntaf Cystadleuaeth Gerddoriaeth yr Urdd Dramor Frenhinol.
Ymhlith uchelfannau diweddar bu chwarae In Seven Days Adès gyda’r LSO dan faton y cyfansoddwr, yn ogystal â première ei Növények yn Wigmore Hall.Ddiwedd 2021 ymddangosodd gyda’r BBC Philharmonic i roi première concerto piano Robert Laidlow Warp, a ddarlledwyd ar BBC Radio 3, ac yn 2022 gwnaeth ei début yn Neuadd Ddatganiad y Concertgebouw mewn rhaglen o Dohnanyi a Mendelssohn gyda’r soddgrythor Tim Posner.Yn 2023 bydd Joseph i’w glywed ar sawl recordiad CD:gweithiau lleisiol Finnissy ar Divine Art Metier (gyda Lotte Betts-Dean a Marsyas Trio), Weather a Rare Blue Lisa Ilean a murmurs Rebecca Saunders i NMC (gydag Explore Ensemble), a dau CD solo, un gyda Debussy, Schumann ac Abrahamsen, a’r llall yn recordiad première The Dissolute Society Comprised of All Sorts Isabella Gellis.Mae Joseph yn dysgu yn y Royal Academy of Music.Mae’n dotio at redyn.