Triawd Piano Solarek

Marina Solarek   ffidil
Miriam Lowbury   soddgrwth 
Diana Brekalo  piano


Rhaglen

Lili Boulanger (1893-1918)    D’un Matin De Printemps  pièces en trio                         

Rebecca Clarke (1886-1979 - Piano Trio 

 

- Moderato ma appassionato
- Andante molto semplice
- Allegro vigoroso

Germaine Tailleferre (1892-1983)

 

 

 

- Trio pour piano, violon et violoncello

- Allegro animato
- Allegro vivace
- Moderato
- Trés animé

 

Teithiodd y grŵp hirsefydlog yma’n eang drwy hyd a lled Prydain ac Ewrop a rhoi perfformiadau yn South Bank a St Johns Smith Square Llundain.  

Yn ddiweddar perfformiodd ei gyngerdd poblogaidd Schumann/Brahms i’r triongl ledled gwledydd Prydain. Mae perfformiadau trios gan Clara a Robert Schumann a Johannes Brahms wedi’u plethu â darlleniadau o gofnodion dyddiaduron a llythyrau at ei gilydd. 

Mae’r triawd yn perfformio’n rheolaidd ac yn rhoi dosbarthiadau meistr yn yr Almaen lle mae’n cyflwyno’n fynych gyfansoddwyr o Brydain fel Alan Bush, Samuel Coleridge Taylor, Rebecca Clarke a Frank Bridge.   

Cenhadaeth Marina, Miriam a Diana ydi rhoi llwyfan i gyfansoddwyr benywaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif fel Lili Boulanger, Cecile Chaminade, Amy Beach, Germaine Taileferre, Rebecca Clarke, a Johanna Senfter sydd bron yn anhysbys. 

Yn 2019 dechreuodd y triawd gydweithredu â’r awdur Anna Beer, un o Gymrodorion Coleg Kellogg, Prifysgol Rhydychen, a ddathlodd a chwiliodd gorchestion cyfansoddwyr benywaidd drwy’r canrifoedd yn ‘Sounds and Sweet Airs: the Forgotten Women of Classical Music’ o’r flwyddyn 2016, oedd ar restr fer gwobr Cyfathrebu Creadigol yr RPS. Ynghyd ag Anna mae’r triawd yn dod â gweithiau’r cyfansoddwyr yma, aethai dros gof, i gynulleidfaoedd newydd.

 
 Pris Safonol £6 Ymlaen llaw | £7 Ar y diwrnod
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £5 Ymlaen llaw | £6 Ar y diwrnod
 Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) 2 gredyd

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr
 
13.00  DECHRAU                                                                        
14.00  DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.