Huw Watkins, David Adams a Matthew Hunt

Huw Watkins - piano
David Adams - ffidil/fiola
Matthew Hunt - clarinét

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

 Huw Watkins   Dream (clarinet/violin/piano)       8' 
 Michael Zev Gordon   Fragments from a diary (clarinet/violin/piano)   12' 
 John Luther Adams  Nunataks – Solitary Peaks (solo piano)    6'
 Huw Watkins  Speak Seven Seas (clarinet/violin/piano)  12'


Mae’r cyngerdd yma’n rhoi llwyfan i dri pherfformiwr graenus i’w rhyfeddu.

Mae Huw Watkins, Cymro o’i enedigaeth, yn un o gyfansoddwyr blaenllaw Prydain ac mae galw mawr amdano gyda cherddorfeydd ac mewn gwyliau. Mae’n Gyfansoddwr Cysylltiedig yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae David Adams, gynt yn Flaenwr Cerddorfa Ulster, bellach yn Flaenwr Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, yr un mor gartrefol ar y ffidil ag ydi ar y fiola.

Mae Matthew Hunt yn un o ganwyr clarinét blaenllaw Prydain, yn gerddor tra arbennig sy’n adnabyddus am naws leisiol ei ganu. Mae’n dal swydd clarinetydd solo gyda Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, ac mae’n aelod o’r grŵp siambr Ensemble 360 sydd â’i ganolfan yn Sheffield. 

Ymhlith y darnau yn y rhaglen heddiw mae gweithiau gan Huw Watkins, Michael Zev Gordon a John Luther Adams.

Sgwrs Cyn Cyngerdd: Gan John Metcalf ynghylch y rhaglen.
12pm | Ystafell Llanelwy

 
 Pris Safonol £6 Ymlaen llaw | £7 Ar y diwrnod
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £5 Ymlaen llaw | £6 Ar y diwrnod
 Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) 2 gredyd

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr
 

David Adams (ffidil/fiola)

Mae David Adams, gynt yn Flaenwr Cerddorfa Ulster, bellach yn Flaenwr Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.Mae’n Gyd-gyfarwyddwr Artistig y Goldberg Ensemble ers 2003, ac roedd yn diwtor y ffidil yn Royal Northern College of Music rhwng 2000 a 2006. 

Mae’r un mor gartrefol ar y ffidil ag ydi ar y fiola, bu’n aelod o’r Raphael Ensemble a’r Ovid Ensemble ac mae’n awr yn ymddangos yn rheolaidd yn westai gyda’r Nash Ensemble, Endellion String Quartet, Gould Piano Trio a Hebrides Ensemble.  

Yn Flaenwr Cerddorfa Ulster, perfformiai David concerti a chyfarwyddo perfformiadau o’r ffidil, a bydd yn dal i ganlyn y rolau yma gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.Recordiodd David Bumawdau Tannau Beethoven gyda’r Endellion Quartet i Warner Classics yn 2008 a gwneud sawl recordiad gyda’r Gould Piano Trio a’r Nash Ensemble. 

Cychwynnodd David ai astudiaethau pan oedd yn bump oed gyda’i dad, y prif ganwr fiola yn yr Hallé Orchestra.Daliodd i hyfforddi gyda Malcolm Layfield yn Chetham’s School of Music a’r Royal Northern College of Music ac wedyn yn yr Unol Daleithiau gyda Zvi Zeitlin a Daniel Phillips. 

Matthew Hunt (Clarinét)

Mae Matthew Hunt yn un o ganwyr clarinét blaenllaw Prydain, yn gerddor tra arbennig sy’n adnabyddus am naws leisiol ei ganu a’i ddawn cyfathrebu â chynulleidfaoedd.Mae’n dal swydd y clarinetydd solo gyda Deutsche Kammerphilharmonie Bremen, ac mae’n aelod o’r grŵp siambr Ensemble 360 sydd â’i gartref yn Sheffield. Ac yntau’n gerddor siambr brwd dros ben, mae’n ymddangos yn rheolaidd gyda Meta4, pedwarawdau Chiurascuro ac Elias, Thomas Adès, Pekka Kuusisto, Emily Beynon, Nicholas Altstaedt, Alina Ibragimova, a La Bande de La Loingtaine.Ymddangosodd hefyd yn westai Cerddorfa Ffilharmonig Berlin yn unawdydd yn ei chyfres yn Berlin Philharmonie Kammermusik Saal. 

Ymhlith cynlluniau Matthew at y tymor yma mae ymddangos mewn gwyliau’n cynnwys Lockenhaus (Awstria), Kaposvar (Hwngari), Kuhmo (y Ffindir) a Charlottesville (yr Unol Daleithiau), ac ymddangosiadau concerto gyda Deutsche Kammerphilharmonie a Paavo Jarvi, a chyda Cherddorfa Siambr Georgia, Ingolstadt.Yn gerddor cerddorfaol, mae Matt yn brif chwaraewr gwadd rheolaidd gyda’r Academy of St Martin in the Fields ac ymddangosodd yn brif chwaraewr gwadd gyda Cherddorfeydd y Concertgebouw a’r BBC Symphony a Cherddorfa Siambr Ewrop. 

Daeth clod y beirniaid i ran recordiad Matthew i ASV o Bumawd Clarinét Mozart gyda phedwarawd Elias, a gafodd bum seren gan BBC Music Magazine a’i galwodd "the Benchmark recording of this much recorded work". 

"The clarinettist played so beautifully it was as though he wished to make the very air of the hall melt" Tokyo Times. 

Huw Watkins (Piano)

Ganed Huw Watkins yng Nghymru ym 1976. Astudiodd y piano gyda Peter Lawson yn Chetham’s School of Music a chyfansoddi gyda Robin Holloway, Alexander Goehr a Julian Anderson yng Nghaergrawnt a’r Royal College of Music.Yn 2001 dyfarnwyd iddo Gymrodoriaeth Iau Constant a Kit Lambert yn y Royal College of Music, mae bellach yn dysgu cyfansoddi yn y Royal Academy of Music. 

"What an amazing musician Watkins is, this unfailingly dependable and musical pianist who seems to be everywhere.If he caught a cold most of Britain’s summer festival season would collapse."The Telegraph 

Mae galw mawr am Huw Watkins yn bianydd gyda cherddorfeydd a gwyliau gan gynnwys y London Sinfonietta, Britten Sinfonia, cerddorfeydd y BBC a Gwyliau Aldeburgh a Cheltenham.Perfformiodd mewn neuaddau cyngerdd drwy’r byd yn grwn, yn cynnwys y Barbican, Wigmore Hall, Library of Congress yn Washington a’r Smithsonian Institute.Mae Huw yn ymroddedig i’r carn i berfformio cerddoriaeth newydd a rhoes premières gweithiau gan Alexander Goehr, Tansy Davies, Michael Zev Gordon a Mark-Anthony Turnage.Yn ddiweddar cyflwynodd raglen o weithiau piano Hans Werner Henze yn niwrnod Total Immersion y BBC yn y Barbican.Ymhlith ymddangosiadau diweddar yng ngwledydd Prydain bu Gwyliau Newbury and Peasmarsh, Wigmore Hall, Eaton Square, Kettle’s Yard Caergrawnt, Saffron Walden, Glasgow, Bath.Ymhellach draw, Ferrara, Columbus (yr Unol Daleithiau) gyda ProMusica Chamber Orchestra, Domaine Forget a Gŵyl Gerdd Haf Toronto. 

Mae Huw Watkins yn hoff gymar i gydweithrediadau siambr yn perfformio’n rheolaidd gyda’i frawd Paul Watkins, yn ogystal ag Alina Ibragimova, James Gilchrist, Daniel Hope, Nicholas Daniel, Sebastian Manz, Mark Padmore, Carolyn Sampson ac Alexandra Wood.Yn ddiweddar bu Huw yn Gyfansoddwr Preswyl ac yn bianydd mewn gwyliau’n cynnwys Llanandras a Gŵyl ‘Spannungen’ Lars Vogt yn Heimbach, yr Almaen, yn ogystal â gydag Orchestra of the Swan (2012-14). 

Mae Huw Watkins yn un o bennaf gyfansoddwyr Prydain a pherfformiwyd ei gerddoriaeth drwy hyd a lled Ewrop a Gogledd America.Perfformiwyd a chomisiynwyd gweithiau Huw gan y Nash Ensemble, Birmingham Contemporary Music Group, Belcea Quartet, Elias Quartet, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, BBC Symphony Orchestra, London Symphony Orchestra a Cincinnati Chamber Orchestra.Ymhlith yr uchelfannau mae ei Concerto Ffidil mawr ei glod gafodd ei première yn y BBC Proms gan Alina Ibragimova a’r BBC Symphony Orchestra dan arweiniad Edward Gardner, Concerto Piano gafodd ei première gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, London Concerto gafodd ei première i nodi canmlwyddiant London Symphony Orchestra, Concerto Dwbl gafodd ei première yn y BBC Proms gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad Jac van Steen ac In My Craft or Sullen Art i denor a phedwarawd tannau gafodd ei première yn y Wigmore Hall gan Mark Padmore a’r Petersen Quartet. 

Enwyd Huw yn Gyfansoddwr Cysylltiedig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am dair blynedd, yn cychwyn yn hydref 2015. 

Clywir Huw Watkins yn rheolaidd ar BBC Radio 3, yn berfformiwr ac yn gyfansoddwr ill dau.Ymhlith ei recordiadau mae disg o weithiau Mendelssohn i’r soddgrwth a’r piano gyda’i frawd Paul Watkins (Chandos), sonatâu Prydain i’r soddgrwth a’r piano gyda Paul Watkins (Nimbus), cylch Alexander Goehr i’r piano Symmetry Disorders Reach (Wergo), a chylch o ganeuon Thomas Adès The Lover in Winter gyda’r uwchdenor Robin Blaze (EMI Classics).Yn fwyaf diweddar, rhyddhaodd NMC Records ddisg wedi’i neilltuo i waith Huw Watkins o’r enw In my craft of sullen art (NMC).Mae’r disg yn rhoi stondin i’w ‘outstanding pianism’ (Andrew Clements, The Guardian) ac yn ei ddangos yn ‘one of the most rounded composer-musicians in the UK’ (Andrew Clark, Financial Times). 

13.00  DECHRAU                                                                        
14.00  DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.