Cyngerdd Enillwr Gwobr CBCDC

Rhaglen:

Sonata i’r Clarinét a’r Piano yn F Leddf Op.109 - Edwin York Bowen   15'
I. Allegro Moderato
II. Allegretto poco scherzando
III. Allegro Molto
 

Tri Miniatur i’r Clarinét a’r Piano -  Krzysztof Penderecki    6'
I. Allegro
II. Andante cantabile
III. Allegro ma non troppo

Tri Intermezzo - Charles Villiers Stanford    8'
I. Andante espressivo
II. Allegro agitato
III. Allegretto scherzando

Time Pieces- Robert Muczynski
I. Allegro risoluto
II. Andante espressivo
III. Allegro moderato
IV. Rhagarweiniad: Andante molto- Allegro energico   16'

Yn ddiweddar cwblhaodd Laura ei gradd Meistr mewn Perfformio Cerddorfaol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda chefnogaeth hael Help Musicians UK a Sefydliad Sain EMI. Astudiodd gyda Rob Plane a Tim Lines, a chwblhau ei gradd Baglor yno gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2017.

Enillodd Laura Wobr Ian Stoutzker y Coleg am y cerddor mwyaf eithriadol yn y coleg â’i pherfformiad o Concertino Weber yn 2018 ac fe’i henwyd yn enillydd Gwobr Brwynen Sengl Howarth yn yr un flwyddyn. Mae Laura yn gerddor cerddorfaol brwd, wedi chwarae gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, English Symphony Orchestra, British Sinfonietta a New Generation Festival Orchestra. Ymddangosodd yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Dartington, Gŵyl Hellensmusic yn chwarae gydag aelodau o’r Berliner Philharmoniker a Gŵyl Aberdaugleddau gyda’i chymhares ddeuawd, Sioned Evans.

Gwnaeth Laura ei début yn Llundain yn St Martin in-the-Fields yn unawdydd awr ginio ym mis Chwefror 2019, a hi oedd yr unawdydd gyda Cherddorfa Symffoni CBCDC yn Riffs and Refrains Mark Anthony Turnage yn Neuadd Dewi Sant ym mis Mehefin 2019.

 
 Pris Safonol £6 Ymlaen llaw | £7 Ar y diwrnod
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £5 Ymlaen llaw | £6 Ar y diwrnod

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

 
Bwciwch Nawr
 
13.00  DECHRAU                                                                        
14.00  DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.