Simon Desbruslais a Eleanor Hodgkinson

Rhaglen

 Fauré   Étude Vocalise 
 Fellows   Three Sketches (2010) 
 Fellows   Where Eagles Soar (2012) 
 Medtner  Suite Vocalise
 Gershwin   Three Preludes

 

Mae Simon Desbruslais yn unawdydd mawr ei glod ar yr utgorn, yn un mor weithgar ym meysydd cerddoriaeth Faróc a chyfoes. Recordiodd yn helaeth i Signum Classics, gan gynnwys 'Psalm: Contemporary British Trumpet Concertos' a 'The Art of Dancing'. 

Mae’r pianydd Eleanor Hodgkinson yn rhannu ei hamser rhwng perfformio, dysgu, arholi a sgrifennu.A hithau’n gerddor siambr aml ei doniau, bu’n rhan o gydweithrediadau lawer a rhoes premières fyrdd cerddoriaeth Prydain.Aeth gwaith solo â hi i Ogledd America, Denmarc, yr Iseldiroedd, yr Almaen a Ffrainc a gwêl 2020 ryddhau Cyfrol Gyntaf Gweithiau Piano Solo Cyflawn Nino Rota ar label Grand Piano Naxos.  Ym maes gwaith piano cerddorfaol daeth oedau mynych gydag Opera Canolbarth Cymru, Southern Sinfonia ac Orchestra of the Swan yn cynnwys darnau comisiwn, darllediadau, recordiadau a gwaith allgyrch.  Yn awdur, dyfeisiodd Eleanor lawer o brosiectau addysg a gwelodd 2014 lansio BabyGigs, Cwmni Buddiannau Cymuned sydd â’i ganolfan yng Nghanolbarth Lloegr sy’n cyflwyno cyngherddau i fabanod a phlant cyn oed ysgol ochr yn ochr â gweithdai a phrosiectau mewn ysgolion cynradd.

www.simondesbruslais.com

 
 Pris Safonol £6 Ymlaen llaw | £7 Ar y diwrnod
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £5 Ymlaen llaw | £6 Ar y diwrnod
 Time Credits (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) 2 gredyd

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr
 
13.00  DECHRAU                                                                        
14.00  DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.