Cerddorfantur! Beethoven, Bendigeidfran Cerdd

Cerddorfantur! Beethoven, Bendigeidfran Cerdd
Cerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cymru
Cyflwynir gan Ruth Rosales

Daw Cerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cymru yn ei hôl ac i’w chanlyn Cerddorfantur eto sy’n rhoi bywyd o’r newydd i Beethoven, yn adrodd ei stori anhygoel drwy gysylltu ei gerddoriaeth chwedlonol â champweithiau modern o’n hoff ffilmiau. Bydd y cyflwynydd Ruth Rosales yn mynd â chi ar daith ryngweithiol drwy amser i gyfarfod y cyfansoddwr trwm ei glyw a allai glywed y dyfodol. Gewch chi ryfeddu at y campweithiau, chwilio’r dyn y tu ôl i’r chwedl ac ymuno â ni ar ein Cerddorfantur!

Mae’r cyngerdd yma wedi’i fwriadu ar gyfer cynulleidfa ysgolion, ond mae croeso i’r cyhoedd ddod iddo.  Mae gofyn i’r ysgolion sy’n dod fod ar eu heistedd erbyn hanner awr wedi deg.

 
 Pris Safonl

£6 Ymlaen llaw | £7 Ar y diwrnod

 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith £5 Ymlaen llaw | £6 Ar y diwrnod
 A ddysgir gartref £3 i’r myfyriwr a’r rhiant yn gwmni iddo
 Grwpiau: Ysgolion 
Taliadau ysgolion i ddod i law erbyn 17eg Ionawr 2020
Archebion grwpiau heb fod ar gael ar lein – dim ond yn bersonol neu dros y ffôn â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.
£3 i fyfyrwyr ac athrawon yn mynd am ddim

A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444.  Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Bwciwch Nawr
 
11.00  DECHRAU                                                                        
12.00  DIWEDD

NODER: Amseroedd bras - gallant newid.