Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Tallis Scholars gyda gwesteion Cardiff Ardwyn Singers - WEDI'I GANSLO

 Arweinydd:  Peter Phillips

 DATHLIADAU CORAWL – PEN-BLWYDD HAPUS! • CHORAL CELEBRATIONS –
 HAPPY 
BIRTHDAY!

 Gibbons     O clap your hands  Palestrina     Tu es Petrus
 Tallis    Suscipe quaeso  Rutter    Hymn to the Creator of Light
 Byrd    Sing Joyfully (AS a/and TTS)  Gombert    Lugebat David
 Byrd    Haec Dies (AS a/and TTS)  Purcell    I was glad (AS a/and TTS)
 Byrd    Tribue domine  Pärt    Which Was the Son of… 

 

Mae pen ein blwydd yn hanner cant yn dwyn yn ei sgil gyfle i forio yn y darnau fu’n golygu’r mwyaf i ni dros y blynyddoedd. Rydym wrth ein boddau o weld Cantorion Ardwyn Caerdydd, sy’n dathlu eu trigeinfed tymor, yn dod atom i gyd-berfformio
gweithiau gan Byrd a Purcell. Cychwynnwn â’r anthem fawr, O clap your hands gan Gibbons, tour de force i wyth llais. Wedyn cyfansoddiad gan Tallis, ei Suscipe quaeso i saith llais, un o’i fwyaf heb os. Mae Tribue domine gan Byrd yn un o’r eitemau
a berfformiwn fynychaf. Bydd yma hefyd gerddoriaeth gan Palestrina a Gombert - a ninnau wedi recordio pob Magnificat ganddo ym 1996 – ac Arvo Pärt, y cyflwynon ni ddisg iddo yn 2014. Does fawr angen cyflwyno John Rutter – mae hwn yn gampwaith. Mae yna lond gwlad eto i’w chwilio yn y blynyddoedd i ddod! Peter Phillips

 
 Pris Safonol

Codwch unrhyw docyn cyn 30 Hydref
am ddim ond 
£22.50

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)
PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.

 Pobl anabl ag un cydymaith
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)

Hanner Pris

 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr 
 (Prisiau manteisiol heb fod ar gael 
 ynghlwm â thocynnau Platinwm 
 na 
Chyflwyniadol.)

£18.00
 Myfyrwyr | Dan 26 oed
Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. 
£5.00
 Pobl hŷn: Dros 65
 (Prisiau manteisiol heb fod ar gael
 ynghlwm â thocynnau Platinwm
 na 
Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50).
 Time Credits (Ychydig sydd ar
 gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar
 02920 878444)
2 gredyd

 

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.

 
Wedi’i ganslo