Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

Dresden Philharmonic - NEWID LLEOLIAD

 Arweinydd    Stanislav Kochanovsky 
 Unawdydd    Maria Loudenitch, ffidil
 Mussorgsky    Khovanshchina
 Mendelssohn     Concerto Ffidil
 Tchaikovsky    Symffoni Rhif 6 ‘Pathétique’ 

 

Mae Ffilharmonig Dresden fawr ei chlod yn rhoi tro amdanom ac i’w chanlyn dri champwaith o Rwsia sy’n rymus ac yn gyforiog o awyrgylch. Yn ei Phreliwd twyllodrus o dangnefeddus prin y cawn gip ar realpolitic ciaidd opera anorffen Mussorgsky,  Khovanshchina, tra mae concerto ffidil Mendelssohn a berfformir yma gan y Rwsiad-Americanes fawr ei chlod Maria Loudenitch, yn mynd â ni o harddwch aruchel i  gampwriaeth chwareus. Oherwydd marw annhymig Tchaikovsky, ddyddiau cwta 
ar ôl première ei Chweched Symffoni, mae ei ddatganiad cerddorol mwyaf teimladwy yn fwy dwysbigol fyth. Yn troi o dynerwch distaw i rym ffrwydrol, y ‘Pathétique’ ydi’r
reid colli cylla Ramantaidd fwyaf oll – go brin y gallai hyd yn oed opera fawr ddwyn mwy o ddagrau i’r llygaid na diweddglo ysigol y symffoni.

SGYRSIAU CYN Y GYNGERDD
Danijela Spirik Beard Capel Mair (mynedfa'r de-ddwyrain) | 6.30pm - 7pm
Sylwch nad oes tocynnau i’r digwyddiad ac mae ar sail y cyntaf i'r felin.

 

 
 Pris Safonol  £9.50  Lefelau 5
(golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig)
  £15.00 Lefelau 9 a 13, 10 a 12
  £22.00 Lefelau 9 a 13
  £28.50 Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen)
Blaen y Stalau Ochr
  £34.00 Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol
  £39.50 Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr
   

 Plant dan 16 oed 
 (Os bydd tocynnau ar gael)

PLANT YN MYND AM DDIM
Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a
bwrw’u bod ar gael.
 Tocyn Platinwm 
 Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a  rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf  yn unig.
£48.00
 Pobl anabl ag un cydymaith
 (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â
 thocynnau Platinwm na 
Chyflwyniadol.)
Hanner Pris
 Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr 
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
£2.00 oddi ar docyn pris llawn
 Myfyrwyr | Dan 26 oed
Rhaid cyflwyno  prawf adnabod neu codir y pris llawn. 
£5.00
 Dros 65
(Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.)
 Gostyngiad o 10%
 Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un 
 cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar
 029 2087 8444)
Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50).
 Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 9 Medi, Grwpiau
o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00
yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. 
  Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444)  Codwch docynnau Cynnig Cynnar a
thalu cyn dydd Sadwrn 9 Medi, Grwpiau
o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma.
  Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) 2 gredyd


A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.