Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y BBC - NEWID LLEOLIAD
Dydd Mercher 13 Rhagfyr 2023, 7.30pm
Jurassic Park Cineconcert |
Pwy sy’n gallu anghofio cerddediad dirgrynol a byddarol y T-Rex neu synau arswydus y velociraptor? Ymunwch â BBC NOW y mis Rhagfyr hwn ar gyfer Jurassic Park, yn fyw mewn cyngerdd. Wedi’i lleoli ar Isla Nublar, dewch gyda ni i ddilyn stori Dr Alan Grant ac Ellie Sattler wrth iddynt frwydro i oroesi yn erbyn deinosoriaid y parc thema pan maent yn adfywio ac yn dianc o’u hamgaefeydd ac yn ceisio rheoli’r ddaear eto. Gyda delweddau gweledol trawiadol ac effeithiau arbennig arloesol, efallai nad yw’r antur llawn cyffro hon yn nodweddiadol o gyngerdd Nadolig, ond gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio sgôr epig John William yn fyw i’r ffilm, mae’n ffordd briodol iawn o ddathlu pen-blwydd y ffilm eiconig hon yn 30 oed!
DS. Nid yw’r cyngerdd hwn yn rhan o danysgrifiadau Cyfres Caerdydd Glasurol.
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.