Dresden Philharmonic - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Dydd Mercher 17 Ebrill 2024, 7.30pm
Arweinydd | Stanislav Kochanovsky |
Unawdydd | Maria Loudenitch, ffidil |
Mussorgsky | Khovanshchina |
Mendelssohn | Concerto Ffidil |
Tchaikovsky | Symffoni Rhif 6 ‘Pathétique’ |
Mae Ffilharmonig Dresden fawr ei chlod yn rhoi tro amdanom ac i’w chanlyn dri champwaith o Rwsia sy’n rymus ac yn gyforiog o awyrgylch. Yn ei Phreliwd twyllodrus o dangnefeddus prin y cawn gip ar realpolitic ciaidd opera anorffen Mussorgsky, Khovanshchina, tra mae concerto ffidil Mendelssohn a berfformir yma gan y Rwsiad-Americanes fawr ei chlod Maria Loudenitch, yn mynd â ni o harddwch aruchel i gampwriaeth chwareus. Oherwydd marw annhymig Tchaikovsky, ddyddiau cwta
ar ôl première ei Chweched Symffoni, mae ei ddatganiad cerddorol mwyaf teimladwy yn fwy dwysbigol fyth. Yn troi o dynerwch distaw i rym ffrwydrol, y ‘Pathétique’ ydi’r
reid colli cylla Ramantaidd fwyaf oll – go brin y gallai hyd yn oed opera fawr ddwyn mwy o ddagrau i’r llygaid na diweddglo ysigol y symffoni.
Pris Safonol | £9.50 | Lefelau 5 (golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig) |
£15.00 | Lefelau 9 a 13, 10 a 12 | |
£22.00 | Lefelau 9 a 13 | |
£28.50 | Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen) Blaen y Stalau Ochr |
|
£34.00 | Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol | |
£39.50 | Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr | |
Plant dan 16 oed |
PLANT YN MYND AM DDIM Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a bwrw’u bod ar gael. |
|
Tocyn Platinwm Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf yn unig. |
£48.00 | |
Pobl anabl ag un cydymaith (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.) |
Hanner Pris | |
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.) |
£2.00 oddi ar docyn pris llawn | |
Myfyrwyr | Dan 26 oed Rhaid cyflwyno prawf adnabod neu codir y pris llawn. |
£5.00 | |
Dros 65 (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.) |
Gostyngiad o 10% | |
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) |
Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50). | |
Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Codwch docynnau Cynnig Cynnar a thalu cyn dydd Sadwrn 9 Medi, Grwpiau o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00 yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. |
|
Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Codwch docynnau Cynnig Cynnar a thalu cyn dydd Sadwrn 9 Medi, Grwpiau o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma. |
|
Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) | 2 gredyd |
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.