Cerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC - I'W GADARNHAU | Gwybodaeth wedi'i diweddaru i ddilyn
Dydd Sul 11 Chwefror 2024, 3.00pm
Arweinydd | Ryan Bancroft |
Unawdydd | Jonathan Biss, piano |
James Platt, bas | |
Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC | |
Beethoven | Concerto Piano Rhif 1 |
Shostakovich | Symffoni Rhif 13 ‘Babi Yar’ |
O’i gymal agoriadol beiddgar i’w ddiweddglo hynod a chwareus, mae Concerto Rhif 1 Beethoven i’r Piano yn un o weithiau mwyaf mawreddog a herfeiddiol ei genhedlaeth. Mae trydedd symffoni ar ddeg Shostakovich, y cyfeirir ati’n aml yn ôl ei llysenw, Babi Yar, yn ddarn theatrig a throsgynnol, sy’n llawn hiwmor chwerw ac sy’n cynnwys gosodiadau i eiriau o waith Yevtushenko yn portreadu erchyllterau Ymgyrch Barbarossa yn erbyn yr Iddewon yn Rwsia. Ni chafodd ei chlywed am dros 20 mlynedd oherwydd gwrthwynebiad Khrushchev i’w helfennau gwrth-semitig, ond tua diwedd yr 20fed ganrif daeth yn fwy
poblogaidd eto. Nid yw hyn yn syndod o gofio dyfeisgarwch a chywreinrwydd cerddoriaeth Shostakovich, gyda’i chyferbyniadau llym, ei ffraethineb craff a’i chanolbwynt cyweiraidd amwys, wedi’i chyfuno â naws glasurol gynnil a hiraeth rhamantus.
Pris Safonol | £9.50 | Lefelau 5 (golwg gefn o’r llwyfan a lle ymestyn cyfyngedig) |
£15.00 | Lefelau 9 a 13, 10 a 12 | |
£22.00 | Lefelau 9 a 13 | |
£28.50 | Lefelau 3, 4, 6 a 7, Lefelau 10 a 12 (blaen) Blaen y Stalau Ochr |
|
£34.00 | Seddi Ochr, Lefel 11 (canol), Blaen y Stalau Canol | |
£39.50 | Seddi Canol, Lefelau 1, 2 a 8, Lefel 11 (blaen), Seddi'r eil Standiau Ochr | |
Plant dan 16 oed |
PLANT YN MYND AM DDIM Yng nghwmni pob oedolyn sy’n talu’r pris llawn, mae un plentyn yn mynd am ddim –ceir codi tocynnau i blant eraill am £5.00 yr un. Cynigir y tocynnau a bwrw’u bod ar gael. |
|
Tocyn Platinwm Yn cynnwys sedd orau yn Lefel 1, gwydr o Prosecco a rhaglen. Cofiwch fod hyn yn gymwys ar y tocynnau drutaf yn unig. |
£48.00 | |
Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.) |
£2.00 oddi ar docyn pris llawn | |
Myfyrwyr | Dan 26 oed Rhaid cyflwyno prawf adnabod neu codir y pris llawn. |
£5.00 | |
Dros 65 (Prisiau manteisiol heb fod ar gael ynghlwm â thocynnau Platinwm na Chyflwyniadol.) |
Gostyngiad o 10% | |
Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith (Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Tocynnau stondinau am y pris tocyn isaf ar gyfer pob cyngerdd (ac eithrio’r tocyn £9.50). | |
Grwpiau o 10 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Codwch docynnau Cynnig Cynnar a thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau o 10 neu fwy tocyn pris llawn £3.00 yn rhatach, £1.50 ar ôl y dyddiad yma. |
|
Grwpiau o 20 neu’n fwy (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444) | Codwch docynnau Cynnig Cynnar a thalu cyn dydd Sadwrn 10 Medi, Grwpiau o 20 neu fwy tocyn pris llawn £4.00 yn rhatach, £2.50 ar ôl y dyddiad yma. |
|
Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444) | 2 gredyd |
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.
*Dim ond un gostyngiad ar gyfer pob tocyn. Rhaid dangos prawf o’r hawl wrth gasglu’r tocyn.