Sean Shibe yw "un o gitaryddion mwyaf blaengar" ei genhedlaeth. Yn 2018 enillodd Sean Shibe Wobr Artist Ifanc gan y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn dilyn cyhoeddi albwm gyntaf lwyddiannus iawn ar Delphian Records, a enillodd enwebiad iddo hefyd yng nghategori 'Gwobr Offerynnol' cylchgrawn BBC Music Magazine. Mae Dreams and Fantasies yn recordiad sy’n archwilio ffrwyth hanes Julian Bream o gomisiynu yn y 20fed ganrif ynghyd â cherddoriaeth gan Dowland a chafodd ei enwi yn Dewis y Golygydd yn Gramophone yn ogystal â Dewis Offerynnol Cylchgrawn BBC Music.
Law yn llaw â llwyddiant ei recordiad cyntaf, cafodd prosiect “diffuant o aruthrol” Sean Shibe softLOUD ei berfformio am y tro cyntaf yn yr East Neuk a Gŵyl Fringe Caeredin - rhaglen ddatguddiol yn cyfosod cerddoriaeth liwt Jacobeaidd ar gyfer gitâr glasurol, gyda threfniadau gitâr drydan o repertoire aml-haen yn cynnwys marwnad bwerus y cyfansoddwyr a enillodd Wobr Pulitzer Julia Wolfe, LAD, (a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer 9 pipgod) a Killer David Lang. Mae'r gwaith hwn yn rhan o'r recordiad softLOUD newydd.
Fe aned yng Nghaeredin yn 1992 o dras Seisnig a Japaneaidd, ac astudiodd yn Ysgol Gerddoriaeth Frenhinol yr Alban a chydag Paolo Pegoraro yn yr Eidal. Yn 20 oed, ef oedd y gitarydd cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer cynllun Cenhedlaeth Newydd o Artistiaid BBC Radio 3 a’r unig unawdydd gitâr i ennill Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni. Roedd yn artist YCAT rhwng 2015-2017.
Mae wedi perfformio mewn lleoliadau sy'n enwog yn rhyngwladol gan gynnwys Gŵyl Aldeburgh, Gwyl Ryngwladol Caerfaddon, Heidelberger-Frühling a Neuadd Musashino yn Tokyo. Dychwelodd i Ŵyl Gerdd Haf Marlboro ar wahoddiad Mitsuko Uchida ac mae wedi teithio'n helaeth yn Tsieina. Mae ei ymrwymiadau yn nhymor 18-19 yn cynnwys cyngherddau cyntaf gyda'r Royal Northern Sinfonia, Ensemble yr Alban, Symphony Trondheim a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, yn ogystal â pherfformiadau yn Wigmore Hall, Bridgewater Hall, MITO Settembre Musica ac Academi Liszt yn Budapest. Mae’n teithio’r Alban ac yn rhoi cyngherddau yn Royal Albert Hall gyda’r RPO. Gyda diddordeb mawr mewn comisiynu gwaith newydd a threfniadau ar gyfer yr offeryn, bydd Sean Shibe yn perfformio cerddoriaeth gan Michael Murray, James MacMillan a Daniel Kidane yn y tymor hwn.
Mae wedi ymddangos gyda Symffoni BBC yr Alban, Cerddorfa Genedlaethol BBC Cymru a Cherddorfeydd Symffoni'r BBC yn perfformio Concierto De Aranjuez a Ffantía para un Gentilhombre Rodrigo, Concertos Malcolm Arnold a Villa-Lobos a recordio To the Edge of Dream Takemitsu.
Mae wedi recordio gwaith unawdol gan Syr Peter Maxwell Davies ar gyfer Linn Records fel rhan o ddisg Cerddorfa Siambr yr Alban, yn ogystal â Naive and Sentimental Music John Adams gyda Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban ar Chandos. Mae'r cydweithredwyr diweddar yn cynnwys BBC Singers, Danish String Quartet, y sielydd Isang Enders, y chwaraewr harpsicord Mahan Esfahani a'r cantorion Ben Johnson, Robert Murray a Robert Tritschler. Mae ei wobrau'n cynnwys gwobr gyntaf y Royal Over-Seas League a'r fedal aur (2011), gwobr gitâr Ivor Mairants (2009), a chefnogaeth Dewar Arts a D’Addarrio.
Mae'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Hattori Trust.