Rydym yn defnyddio briwsion

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn gweithredu. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn derbyn y byddwn yn gosod cwcis ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi cwcis am ragor o wybodaeth.

Mae diogelwch ein cynulleidfaoedd, staff ac artistiaid yn bwysig iawn i ni.  Cadwch lygaid ar y wefan i gael y newyddion diweddaraf am Fesurau Diogelwch Covid-19.

Peidiwch â dangos y neges hon eto.
 
 

James McVinnie

Repertoire

 Meredith Monk      On Ellis Island
 Julia Wolfe   Earring
 Sufjan Stevens   The Year of Our Lord  
 David Chalmin   Constellation 
 J S Bach   Ich Ruf zu Dir BWV 639 
 Tom Jenkinson   Acid Ober 
 Nico Muhly   Very Fast Music from Patterns  
   
 INTERVAL (20mins)  
 Messiaen   Le Banquet Celeste 
 Tayla-Leigh Payne    NightMusic
 J S Bach   Passacaglia & Fugue in C minor BWV 582  
 Philip Glass   Mad Rush


Mae gwaith James McVinnie yn berfformiwr yn cwmpasu cerddoriaeth o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd yr oes sydd ohoni.  Yn sgil ei ymagwedd at gerddora, heb na ffin na therfyn, cydweithredodd â ffigyrau blaenllaw lawer ym myd cerdd gan gynnwys Philip Glass, Tom Jenkinson/Squarepusher, Angelique Kidjo, Nico Muhly, Martin Creed, David Lang, Richard Reed Parry, Bryce Dessner & Darkstar, a llawer o’u plith wedi sgrifennu gweithiau ar raddfa fawr iddo.Rhyddhaodd gerddoriaeth ar Bedroom Community, Orange Mountain Music a Warp Records. 

Gwêl tymor 2021/22 lansio’r James McVinnie Ensemble, cydweithfa o allweddellwyr pencampwriaethol o Lundain sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth newydd.  Mae gwreiddiau’r ensemble yn mynd yn eu holau i 2017, sef perfformiad yng nghanolfan Barbican Llundain o Music in Twelve Parts Philip Glass  yr unig berfformiad yn hanes y darn a roddwyd gan neb ond ensemble y cyfansoddwr ei hun.Mae cyngherddau lansio yn Bold Tendencies, Llundain ym mis Medi 2021 yn cynnwys portreadau’r cyfansoddwyr Gabriella Smith, Philip Glass a John Adams, ac yn Barbican centre Llundain ym mis Tachwedd 2021 yn cynnwys Glassworks Philip Glass a True Stories & Rational Numbers Chris P Thompson i allweddellau mewn tonyddiaeth union. 

Yn 2021/22 rhydd McVinnie y perfformiadau cyntaf yn Ffrainc o waith awr i’r organ a chant o gyrn sain mewn electroneg un did a sgrifennwyd iddo gan Tristan Perich a concerto newydd a sgrifennwyd iddo gan Gabriella Smith gyda’r Los Angeles Philharmonic o dan Esa Pekka Salonen, yn ogystal ag ymddangosiadau solo yn Lyon Auditorium, Bel-Air Festival yn Chambéry, Ffrainc, Hidden Notes Festival a BBC Proms 2021 gyda’r BBC Concert Orchestra yn première gwledydd Prydain A Globe Itself Infolding Samy Moussa.

Ymhlith uchelfannau cyn covid mae perfformiadau cyntaf Symffoni 12 'Lodger' Philip Glass gydag Angelique Kidjo a’r Los Angeles Philharmonic o dan John Adams ac yn Llundain gyda’r London Contemporary Orchestra yn Southbank Centre, perfformiadau concerto organ Nico Muhly gyda’r Philadelphia Orchestra, cydweithrediad noson o hyd â’r deuawd electronig 'Darkstar' i’r gyfres SPCO Liquid Music a chydweithrediad parhaol â Tom Jenkinson/Squarepusher.Yn ystod clo 2020 lansiodd The Bach Project, astudiaeth drylwyr o Clavierübung III aruthrol Bach, yn ogystal â rhyddhau ei recordiad o’r gwaith wnaed yn 2017 wrth organ Art Schnitger 1702 yr Aa Kerk, Groningen, yr Iseldiroedd.

Roedd James McVinnie yn Organydd Cynorthwyol Abaty Westminster rhwng 2008 a 2011. Cyn y penodiad yma, daliodd swyddi tebyg yn Eglwys Gadeiriol St Paul’s, Eglwys Gadeiriol St Albans, a Choleg Clare, Caergrawnt lle’r astudiodd gerddoriaeth.Sarah Baldock, Thomas Trotter a Hans Fagius oedd ei athrawon.Gwnaeth ei début yn Royal Festival Hall Llundain ym mis Mawrth 2014, yn rhoi un o’r chwe datganiad ailagor ar yr organ eiconig Harrison & Harrison o’r flwyddyn 1954 wedi’i hailwampio. Gwnaeth ei début solo yng Ngŵyl Salzburg yn chwech ar hugain oed yn perfformio gyda Cherddorfa Faróc Freiburg o dan Ivor Bolton.

©James McVinnie 2018

Mewn cysylltiad â:
    Arts Council of Wales logoWelsh Government logoThe National Lottery logo

 

 
  • Pris Safonol: £10.00
    I gynnwys un ai gwrw drafft, gwîn, diod feddal neu jin a thonig o’r bar ar Lefel 3. (*Cwrw drafft yn cynnwys Carling, Cwrw Brains Llyfn a Seidr Stowford Press).
  • Cyfeillion Neuadd Dewi Sant | Plant dan 16 | Dros 60 | Hawlwyr | Pobl anabl ynghyd ag un cydymaith (yn cynnwys diod – darllenwch y rhestr o’r diodydd a gynigir uchod): £2.00 yn llai
  • Myfyrwyr (heb gynnwys diod): £3.00
  • Time Credits (Ychydig sydd ar gael) (ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 02920 878444): gredyd

A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio. 
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.

Logo Hynt

 
Bwciwch Nawr