Cyfoes - Hwyrgerdd
HWYRGERDD
Clasurol Cyfoes yn Lolfa L3
hwyrgerdd ydi ein cyfres cerddoriaeth gyfoes newydd sy’n rhoi stondin i rai o’r lleisiau cerddorol mwyaf cyffrous a neilltuol ac sy’n ffordd hamddenol o chwilio llwybrau cerddorol newydd – o unawdwyr electroacwstig i grwpiau sy’n wfftio confensiynau – ac o gael blas ar berfformiadau gwefreiddiol gan berfformwyr ifanc blaenllaw o Brydain. Ar y cyd a’r Cyfansoddwr Cyswllt, Freya Waley-Cohen, bydd hwyrgerdd yn arwain y ffordd i gefnogi lleisiau newydd wrth i ni roi premiere i gerddoriaeth gan y goreuon ymhlith cyfansoddwyr ifanc Cymru fydd yn rhan o bob digwyddiad, diolch i Dŷ Cerdd. Mae holl berfformiadau hwyrgerdd ar fynd yn amgylchfyd clyd Lolfa L3 Neuadd Dewi Sant, gyda goleuo llawn awyrgylch a chyflwyniadau llafar gan y perfformwyr i agor eu bydau cerddorol. Bydd pob digwyddiad mor anffurfiol ag ydi o ymdrwythol, a digonedd o gyfle i sgwrsio a’r artistiaid rhwng y setiau. I roi hwb i chi,
rydym had yn oed yn cynnwys eich diod gyntaf ym mhris y tocyn.
Mewn cydweithrediad â: