Mae’r wefan yma’n defnyddio briwsion er mwyn gweithio. O ddal i ddefnyddio’r wefan yma, rydych yn derbyn ein bod yn gosod briwsion ar eich cyfrifiadur. Gweler ein polisi briwsion i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Neuadd Dewi Sant wedi ei gau i’r cyhoedd tan Dydd Llun 3 Mai 2021 gan ein bod yn glynu wrth gyngor a roddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae diogelwch ein cyngherddwyr, ein staff a’n hartistiaid o’r pwys mwyaf. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan.
Mae tocynnau ar gael o'n gwefan fel arfer.
Os digwydd bod arnoch angen cysylltu â ni, rhowch ganiad i’n rhif dros dro ar 07743 839816 / 07966 264164. Mae swyddogion ar ochr arall y llinell ffôn o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am – 4.00pm. Cofiwch fod yn amyneddgar gan fod y llinell yn brysur a chofio hefyd ein bod, gwaetha’r modd, yn methu ymateb i negeseuon na thestun na llais a adawir ar y rhif yma.
Carem roi gwybod i chi fod cyngerdd Walk Right Back nos Sadwrn 17 Hydref 2020, 7.30pm wedi’i ohirio tan nos Sul 7 Tachwedd 2021 5pm, oherwydd y sefyllfa annelwig o ran brigo coronavirus (Covid-19).
Bydd y tocynnau sydd gennych ar hyn o bryd yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y dyddiad newydd yn gyfleus i chi.
Gwêl 2020 Ddengmlwyddiant Only Boys Aloud ac i nodi’r achlysur cyhoeddodd y grŵp Ddau Gyngerdd Gala i ddathlu - y naill yma yn y Neuadd a’r llall yn Llandudno.
Ym mis Mawrth 2010, lansiwyd Only Boys Aloud yn fenter newydd i gael gan fechgyn ganu yng Nghymru, i roi bywyd o’r newydd i draddodiad Corau Meibion Cymru ac i ysbrydoli glaslanciau i gael hyder, cymuned, llawenydd, cyfeillgarwch drwy gân.Dim clyweliad, dim ffi a chynhwysedd sydd wrth graidd y cynllun.
A thri chôr ar ddeg yn gweithio yn rhai o’r ardaloedd mwyaf amddifad yng Nghymru, aeth si’r rhyfeddod yma ar led drwy’r byd yn grwn.Gwyliwyd clip clyweliad Britain’s Got Talent y bechgyn ymhell dros wyth miliwn ar hugain o weithiau ar YouTube a bron bob dydd mae negeseuon ar eu gwefan o bedwar ban byd.
Ar gyfer cyngerdd untro yn 2010 y crëwyd OBA a aeth o nerth i nerth, a chyflawni’r gamp fawr o gyrraedd y trydydd lle yn Britain’s Got Talent ITV yn 2012, perfformio ym Mhalas Buckingham yn 2013 i ddathlu trigeinmlwyddiant y coroni, lansio Llong Fordwyo Fawr newydd sbon danlli grai Royal Caribbean, llofnodi cytundeb albwm â Sony a llond gwlad at hynny.
Ymlaen â ni ddeng mlynedd ar wib ac mae Elusen Aloud bellach wedi ymgysylltu â dros fil o fechgyn drwy gorau Only Boys Aloud yng Ngogledd a De Cymru ac at hynny creu Only Kids Aloud a’r Only Boys Aloud Academi.Ar y noson dra arbennig yma fe fyddan nhw’n dod â rhai o’u bechgyn gwreiddiol yn eu holau i berfformio ochr yn ochr â’r corau Aloud i gyd.
Dewch aton ni ac at gantorion ifainc o bob cwr o Gymru i ddathlu degawd o gerddoriaeth ac atgofion mewn dau gyngerdd gala yng Nghaerdydd ac yn Llandudno.
A ffi bostio opsiynol o £1.50 i docynnau gael eu postio. Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 07391 791934. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.