Fascinating Aïda - WEDI'I GANSLO
Sioe’r Deugeinmlwyddiant!
Dydd Gwener 8 Mawrth 2024, 7.30pm
I ddathlu deugain mlynedd ar dramp, yn 2023 mae Dillie, Liza ac Adèle, triawd cabaret cerddorol mwyaf beiddgar a sosi Prydain, yn dod â’u sioe newydd sbon danlli grai i theatrau drwy hyd a lled gwledydd Prydain.
Mae Fascinating Aïda wedi hel miliynau o ddilynwyr ar y rhyngrwyd, wedi perfformio yn yr oedfannau mwya’u bri yn y byd a gwybrau a chlod wedi’u pentyrru arnyn nhw ers iddyn nhw jarffio i’r sîn yn 1983.
Yn swynol heb eu hail, eu dychan fel siswrn, yn sglyfaethus, yn ddigri dat ddagrau, yn ymrafaelgar, yn wleidyddol, yn ddwysbigol ac yn ddigon i ddychryn y saint, mae’r tair anorchfygol yma’n dal i fod yn feistri eu crefft. I nodi’r garreg filltir syfrdanol yma, bydd y sioe’n cynnwys hen ffefrynnau mawr a chaneuon newydd cythreulig o ddigri. Os ydych chi’n dotio at Dogging, wedi morio canu Cheap Flights neu wedi rhannu eu cânDolig gyda’r mwyaf digywilydd glywsoch chi erioed, peidiwch da chi â cholli’r cyfle i gyd-ddathlu â’r perfformwyr diatal yma ar eu hanterth godidog!
Gyda Michael Roulston wrth y piano. Cyfarwyddwyd gan Paul Foster.
Mae'r sioe’n para tua dwyawr gan gynnwys egwyl.
Canllaw oed: 14+ Addas i’r glasoed talog ac ymlaen.
(Mae’n cynnwys iaith fras a chyfeiriadau rhywiol.)
'Cabaret Heaven'★★★★★Metro
'Outrageous... seductive'★★★★Guardian
'I can’t recommend this show highly enough'★★★★★ Mail on Sunday
'Hilarious'★★★★Telegraph
‘Sophisticated satirical songs, performed by jazz-age cabaret muso-dames … Hips! Lips! Tits! Power!’ ★★★★★ Stewart Lee
A ffi bostio opsiynol o £2.00 i docynnau gael eu postio.
Am docynnau Hynt, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 02920 878444. Dim ond hyn a hyn o le sydd ar gael – archebwch yn gynnar i osgoi siom.